Sgwrs Defnyddiwr:Golygydd

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Diolch am y neges a chroeso i'r Wicipedia. Mae croeso ichi ychwanegu lluniau ond mae rhaid fod yn ofalus gyda'r hawlfraint. Mae lluniau sydd yn erthyglau mewn wicipediau eraill yn iawn fel rheol, neu o Comins Wicipedia. Os ydy llun yn bod yn barod does ond rhaid copïo'r manylion (agorwch yr erthygl i'w golygu) a'u gludo ar yt dudalen yma e.e. [[Delwedd:ABC.jpg|200px|bawd|Disgrifiad o'r llun]]. Gobeithio fod hynny o gymorth. Anatiomaros 17:23, 3 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Drwg gennyf am fod mor gwta fy ateb ond galwodd rhywun. Wnes i anghofio esbonio eich bod i uwchlwytho unrhyw ddelwedd arall trwy ddefnyddio "Uwchlwytho ffeil" yn y blwch offer ar y chwith a dilyn y cyfarwyddau. Fel yna gellwch ychwanegu llun a dynwyd gennych chi hefyd (neu sy'n dod o ffynhonnell lle rhennir lluniau, heb hawlfraint arnynt). Hawdd mewn gwironedd, unwaith ichi wneud o. Anatiomaros 19:37, 3 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]