Sgwrs Defnyddiwr:Aranwr

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Croeso am y wicipedia. Deb 22:59, 3 Ionawr 2006 (UTC)[ateb]

hirnod[golygu cod]

Diolch i chi am eich erthygl ar Wilkie Collins. Braf iawn gweld cyfranwr arall â Chymraeg ysgrifenedig rhugl. Sylwais nad oedd yr un hirnod ganddoch yn yr erthygl. Gan gymryd nad ydych eto wedi ymrafael â'r hirnod ar Wicipedia dyma ychydig nodiadau ar y pwnc gan obeithio y byddant o gymorth.

Pan yn golygu mae blwch o lythrennau arbennig ar gyfer mewnosod yn ymddangos islaw y bocs golygu. clicio ar y llythyren sydd ei angen i'w osod yn yr erthygl. Er mwyn i hyn fod yn bosib rhaid bod Javascript wedi ei alluogi ar eich cyfrifiadur. Os nag oes Javascript ganddoch gallwch deipio'r canlynol:

  • â = Alt + 0226
  • ê = Alt + 0234
  • î = Alt + 0238
  • ô = Alt + 0244

Os oes Word a character map (fersiwn weddol o newydd) ganddoch ar eich cyfrifiadur dylech allu gopio ŵ ac ŷ i ddogfen Word a'u copio o'r fan hynny i Wicipedia.

Lloffiwr 21:07, 22 Ionawr 2006 (UTC)[ateb]