Sgwrs Defnyddiwr:212.219.245.1

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Cyfrifiadur ysgol yw'r IP hwn, mae'n debyg, gyda nifer o "gyfraniadau" llawn o ddwli sy wedi arwain at flociau dros y flynyddoedd, a dim un golygiad adeiladol. Amser am floc hir y tro hwn? Peredur ap Rhodri 11:40, 11 Mai 2011 (UTC)[ateb]

Ia, Ysgol Bodedern yn ol fama. Ond pam cosbi mil o blant oherwydd anwadalwch un disgybl? Ysgol Dinas Bran 12:33, 11 Mai 2011 (UTC)[ateb]
Yn bersonol, dw i o'r farn fod angen bloc y tro hwn. Mae'r cyfeiriad IP wedi cael ei ddefnyddio droen er mwyn gosod dwli ar y wefan a phrin yw'r esiamplau o'r cyfeiriad IP yn cael ei ddefnyddio er mwyn cyfrannu'n gadarnhaol. Hefyd os oes disgybl neu athro o'r ysgol eisiau cyfrannu i Wicipedia, yna does dim yn eu rhwystro rhag creu cyfrif a chyfrannu yn y modd hwnnw. Dw i'n awgrymu bloc o rhyw 3 mis. Beth yw barn pawb arall? Pwyll 12:56, 11 Mai 2011 (UTC)[ateb]
M. Digon teg. Mewn gwersi gyda'r plant da ni'n cyfrannu fynychaf. Ond gwn fod plant yn gosod sbwriel ar Wicipedia o'r ysgol hon - y tu allan i'r gwersi hynny. Ysgol Dinas Bran 15:56, 11 Mai 2011 (UTC)[ateb]
I ehangu ar sylw Pwyll, beth yn union fyddai'r bloc yn rhwystro sy'n dibynnu ar y dewisiadau, ond gyda'r dewisiadau cyffredinol mae'n rhwystro rhag olygu heb fewngofnodi neu greu cyfrif yn yr ysgol, ond mae'n caniatau golygu yn yr ysgol tra defnyddio cyfrif sy wedi cael ei greu rhywle arall e.e. cartref (neu yn yr ysgol cyn dechreuodd y bloc). Ond nid wn pa mor dda mae'r sefyllfa hon yn cael ei hesbonio yn y neges byddai pobl ei gweld pan ydyn nhw'n ceisio golygu. Peredur ap Rhodri 17:47, 11 Mai 2011 (UTC)[ateb]

Pwyll 13:10, 24 Mehefin 2011 (UTC)[ateb]

Dyma dudalen sgwrs ar gyfer defnyddiwr anhysbys sydd heb greu cyfrif eto, neu nad yw'n ei ddefnyddio. Felly mae'n rhaid inni ddefnyddio'r cyfeiriad IP i'w adnabod. Mae cyfeiriadau IP yn gallu cael eu rhannu rhwng nifer o ddefnyddwyr. Os ydych chi'n ddefnyddiwr anhysbys ac yn teimlo'ch bod wedi derbyn sylwadau amherthnasol, crëwch gyfrif neu mewngofnodwch i osgoi cael eich drysu gyda defnyddwyr anhysbys eraill o hyn ymlaen.