Sgwrs Defnyddiwr:

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Croeso i'r Wicipedia Cymraeg, 博 Bo, Anatiomaros 15:16, 27 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

Diolch. Efallai mod i wedi camddarllen y cymeriad Tsieinëeg, ond dyna sydd yn fy ngeiriadur. Kanji ydy o efallai? Os felly mae'r ynganiad yn wahanol. Dewis diddorol, beth bynnag! Anatiomaros 14:23, 28 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

A, dwi'n gweld rwan. Dwi'n gwybod ei fod yn cael ei ddefnyddio gyda chymeriadau eraill fel 'bó'ài' (brawdgarwch) ond roedd fy ngeiriadur yn rhoi'r ynganiad 'Bó' ar gyfer y cymeriad ei hun. Dwi'n deall rhywfaint o Siapaneg ond dim llawer iawn o Tsieinëeg, felly maddeuwch fy anwybodaeth! Anatiomaros 15:42, 28 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

Mae 博士 (ハクシ / はかせ) yn air newydd imi. Kyóshi neu, yn amlach, sensei yw'r geiriau dwi'n nabod (mae'r kanji'n wahanol i hakase hefyd). Rhaid imi chwilio o i fyny pan gaf amser (ac mae chwilio gair mewn geiriaduron kanji yn gymhleth weithiau!). Does dim furigana gennyf ar y cyfrifiadur felly dwi'n gorfod defnyddio ffurfiau romaji (llythrennau gorllewinol), yn anffodus. Anatiomaros 16:37, 28 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]