Sgwrs Categori:Yr Hen Ogledd

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Prydain[golygu cod]

Yn fy marn i nid dyma'r unig enghraifft o gategori neu dudalen sy'n perthyn i'r categori "Hanes Prydain". Yr unig gategori ar hyn o bryd ar gyfer erthyglau am Brydain yn gyffredinol (heb sôn am hanes cynharach Cymru, yr Alban a Lloegr) yw "Hanes y Deyrnas Unedig". Dydwi ddim eisio tro hyn yn bwnc glweidyddol, ond doedd "Y Deyrnas Unedig" ddim yn bod cyn 1801! Ydi Llywelyn Fawr a William Wallace yn perthyn i "Hanes y Deyrnas Unedig"? Beth am ddigwyddiadau yng ngogledd Iwerddon cyn y 19eg ganrif? Atebion ac awgrymiadau, os gwelwch yn dda? Anatiomaros 22:10, 30 Rhagfyr 2006 (UTC)[ateb]

Rwyf yn cytuno'n llwyr taw dau beth gwahanol ydynt, diolch am helpu gwahaniaethu rhyngddynt trwy greu'r categori am hanes Prydain. Gyda llaw, rydw i wedi dileu'r categorïau hanes Cymru, Lloegr a'r Alban o'r categori hwn gan fy mod yn credu ni fydd llawer o bwrpas i Categori:Hanes Prydain os bydd ei erthyglau wedi'u cynnwys yn ei is-gategorïau hefyd. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 20:31, 9 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]