Sgwrs:Wiliam I, brenin Lloegr

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Confensiwn John Davies yw:

  • Gwilym I
  • Gwilym II
  • William III

Dwi'n gweld y synnwyr - roedd y ddau gynta'n rheoli teyrnas Ffrangeg ei hiaith ac ni fyddent wedi cyfeirio at eu hunain fel William. Daffy 20:21, 22 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]

Dyna drefn John Davies ac rwyt ti'n iawn cyn belled ag y mae'r Ffrangeg yn y cwestiwn wrth gwrs. Mewn testunau Cymraeg Canol rhyw hanner a hanner di hi - ceir Gwilym, Gwilim, Wiliam, Wilyam yn Brut y Tywysogion er enghraifft - ond yn ddiweddarach dwi'n meddwl fod Wiliam yn fwy cyffredin mewn llyfrau hanes (er nad wyf wedi siecio bob llyfr!). Mae 'Gwilym' yn swnio llawer rhy Gymreig imi, ond wedyn dwi ddim yn arbennig o hapus efo'r enw 'Siarl' am fab hynaf y frenhines chwaith! Wedi'r cyfan da ni ddim yn hapus i weld ffurfiau fel 'Owen Glendower' a 'David ap Llewellyn' ac erbyn hyn mae'r rhan fwyaf o lyfrau hanes Saesneg yn parchu'r ffurfiau Cymraeg. Beth bynnag am hynny mae'n fater o ddewis mae'n debyg. Gadawaf y cwestiwn yn agored i weld barn pobl eraill. Anatiomaros 20:39, 22 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]
Byddai'n neud mwy o synnwyr imi ddefnyddio naill ai:
  • Gwilym (y ffurf Gymraeg gonfensiynol)
  • William (y ffurf Saesneg) gan nodi'r ffurf Gymraeg/ffurfiau Cymraeg
Gyda llaw, y ffurfiau a ddefnyddir ar gyfer enwau tywysogion Cymru a brenhinoedd Lloegr yn y llyfr Tywysogaeth Cymru 1267-1967 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1991):
  • Edward
  • Richard
  • Harri
  • Siarl
  • Siôr
  • Frederick
  • William III
Sanddef 08:18, 12 Chwefror 2007 (UTC)Sanddef[ateb]

Wedi dod ar draws y sgwrs drwy Google wrth chwilio am y dull cywir o enwi brenhinoedd Lloegr mewn testunau Cymraeg. Diolch yn fawr, defnyddiol iawn.