Sgwrs:Twyn-y-Gaer, i'r Gogledd o Drallong

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Dryswch[golygu cod]

Cefais y llun ar Gomin, heb ei gategoreiddio. Yn ôl ni mae'r gaer ym Mhowys, ond yn ôl :en mae hi yn Sir Fynwy. Mae 'na ddwy gaer o'r enw yn yr un ardal o dde Powys (neu Sir Fynwy?!). Oes rhywun yn nabod yr ardal? Mae Trallong ym Mhowys, dwi'n meddwl. Efallai bod y nytars "historical counties" yn gyfrifol am ei rhoi yn Sir Fynwy... Anatiomaros (sgwrs) 00:06, 12 Rhagfyr 2013 (UTC)[ateb]

Mae ffynhonnell Cadw yn dangos: BR044 178 BR044 Twyn-y-Gaer Brecknockshire SN969306 296966 230616 Powys Trallong, sy'n gydnaws a'r erthygl. Felly hefyd y cyfesurynnau. Ond mae'r llun yn perthyn i gaer wahanol, yr un yn Ne Cymru (tua dwy filltir i'r gorllewin o Lanfihangel Glyncornau), sef yr erthygl Saesneg. Fel ti'n deud, mae rhywun wedi cysylltu'r erthygl Saesneg, drwy iw, i'r un anghywir; dw i newydd dorri'r iw a gwahanu'r ddwy anghymarus!
Diolch i ti am ddatrys y dirgelwch. Wna i ddileu'r llun o'r erthygl felly. Wyt ti'n medru nabod y gaer o blith y lluniau hyn? Basai'n braf cael llun. Anatiomaros (sgwrs) 00:45, 14 Rhagfyr 2013 (UTC)[ateb]
ON Beth am Twyn-y-Gaer, Abersenni (Powys)? Ai dyna'r gaer yn y ddelwedd oedd yma? Neu oes 'na dair caer o'r un enw? Help! Anatiomaros (sgwrs) 00:51, 14 Rhagfyr 2013 (UTC)[ateb]