Sgwrs:Tryleg

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

"Trellech" y mae'r map OS yn ei ddefnyddio. A fyddai'n well symud yr erthygl i Trellech, gan fod hynny hefyd yn gwahaniaethu rhwng y pentref yma a Trelech, Sir Gaerfyrddin? Rhion 07:34, 4 Ionawr 2008 (UTC)[ateb]

Yn ôl y wikipedia Saesneg, Tryleg yw'r enw Cymraeg. Mae Bruce hefyd yn rhoi'r un peth, o dan Treleck. A ddylen ni symud yr erthygl yno felly? Jac y jwc 18:51, 20 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]
Dwi'n cyfadde mod i'n gwybod dim am hyn. Ceir Tryleg fel enw'r hen ardal weinyddol (yma). Ond rhyfedd fod Trelech / Trellech yn swnio'n fwy dilys na 'Tryleg'... (tybed be di ystyr 'Tryleg' felly?). Anatiomaros 19:04, 20 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]
Ai am ei fod 3 (try, hen ffurf ar 'tri' yn arbennig fel elfen gyntaf e.e. 'trychant'=tri chan') league (leg o'r gair Saesneg league, gair sy'n dod i mewn i'r iaith o leiaf mor gynnar a'r 14eg ganrif) o rywle? Dyna'r unig beth sy'n gwneud synnwyr ond does gennyf ddim enghraifft o'r enw lle o gwbl. Anatiomaros 19:12, 20 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]
Dw i'n derbyn pwynt Anatiomaros bod Tryleg yn swnio'n od, ond dyna sydd yn TermCymru [1] hefyd (doedd e ddim yn gweithio y diwrnod o'r blaen i checkio). Mae ar lefel 3 sy'n golygu eu bod yn bur hyderus eu bod yn gywir (5 yw'r default). Dw i'n awgrymu symud yr erthygl yno os nad oes anghytuno? Jac y jwc 23:59, 24 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]
Mae Gwyddoniadur Cymru yn defnyddio "Tryleg" hefyd, felly rwy'n meddwl fod digon o sail i'w symud. Rhion 07:34, 25 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]