Sgwrs:Taleithiau ffederal yr Almaen

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Beth yw ffynhonell yr enwau Cymraeg ar y taleithiau? Dwi'n bur hoff o rai (Y Saar a Gogledd Rhein-Westffalia er enghraifft), ond nid o eraill. Mae Sacsoni, Bafaria, Thwringia, a Rheindir-Balatin yn edrych fel cymreigiad o'r enwau Saesneg yn hytrach na'r enwau gwreiddiol. Fe fyddai'n well gen i weld yr enwau Almaeneg ar rhain yn lle, ond os mae na ddefnydd helaeth o'r enwau hyn yn y Gymraeg yn barod, gwell eu cadw fel y maent rwan. Ond fe fyddai'n dda cael gwybod o ble maen nhw'n dod! Diolch --Llygad Ebrill 12:19, 11 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]

Rwy'n meddwl fod "Bafaria" yn eitha cyffredin, ond nid y gweddill.Rhion 12:50, 11 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]


*Baden-Württemberg (o'r Almaeneg)
*Bafaria (Geiriadur yr Academi)
*Berlin (o'r Almaeneg)
*Brandenbwrg (cyfieithiad sy'n dilyn esiampl "Hambwrg")
*Bremen ( o'r Almaeneg)
*Hambwrg (Geiriadur yr Academi) 
*Hesse (o'r Saesneg) 
*Meclenbwrg-Gorllewin Pomerania (Meclenbwrg: dilyn esiampl "Hambwrg"; Pomerania: Geiriadur yr Academi) 
*Sacsoni Isaf (Geiriadur yr Academi) 
*Gogledd Rhein-Westffalia (Rhein + Westffalia Geiriadur yr Academi) 
*Rheindir-Balatin (Rheindir + Balatin (>Palatin) Geiriadur yr Academi) 
*Y Saar (Saarland) (Geiriadur yr Academi)
*Sacsoni (Geiriadur yr Academi) 
*Sacsoni-Anhalt ( Sacsoni Geiriadur yr Academi + Anhalt o'r Almaeneg) 
*Schleswig-Holstein (o'r Almaeneg)
*Thwringia (Geiriadur yr Academi)

Ar wahân i "Bafaria", "Y Rheindir" ac i raddau "Sacsoni", nid yw'r gweddill yn gyffredin, ond mae "Westffalia" yn enw hanesyddol, ac mae "Pomerania" yn enw hanesyddol sy'n cyfeirio at diriogaeth sy'n cynnwys gogledd Gwlad Pwyl. O ran "enwau cyffredin", cofiwch nad yw'r enwau Saesneg yn "enwau cyffredin" chwaith, ac eithrio mewn llyfrau hanes.

Sanddef 16:50, 11 Chwefror 2007 (UTC)Sanddef[ateb]


Dw'i'n credu byddai'n syniad da i ddefnyddio'r enwau Almaeneg a nodi'r rhai enwau Cymraeg sydd ar gael yn yr erthyglau priodol. Mae 'na dri chategori o enwau Cymraeg yn y cyd-destun yma:

  • 1. Enwau sydd wedi cael eu cymreigio o'r Almaeneg (ac sy'n ymddangos yn y Geiriadur): Hambwrg
  • 2. Enwau taleithiau sy'n defnyddio enwau hanesyddol: Bafaria, Thwringia, Sacsoni, Y Saar
  • 3. Enwau hanesyddol sy'n cael eu cynnwys fel elfen o enw talaith: Y Rheindir, Westffalia, Pomerania, (Sacsoni)

Sanddef 08:04, 12 Chwefror 2007 (UTC)Sanddef[ateb]