Sgwrs:Swnni
Gwedd
Cymreigiad?
[golygu cod]Ydym ni am Gymreigio hyn? Ac os ydym, pa sillafiad: Swni 'ta Swnni? Anatiomaros 22:23, 1 Chwefror 2009 (UTC)
- O chwilio'n sydyn ar Google, alla i ddim ond cael hyd i un enghraifft o "Swni" a dim o "Swnni". "Sunnĩ" sydd gan Cyril Williams yn Crefyddau'r Dwyrain. Fe fusasn i'n ei adael fel y mae rwy'n meddwl. Rhion 07:02, 2 Chwefror 2009 (UTC)
- Diolch am dy ymateb, Rhion. Ei adael o fel y mae ydy'r peth gorau, efallai. Piti does dim modd cael enwau mewn llythrennau italig yn enwau erthyglau.
- Oes gen ti unrhyw gynnig am Druze? 'Druziaid' sy gan Cyril Williams mewn cyfeiriad un llinell sy'n osgoi'r broblem o sut i wahaniaethu rhwng y bobl a'u crefydd (yn wir, mae'n anwybyddu'r Drusiaid yn gyfangwbl i bob pwrpas!). 'Drusiad' (a 'Drusiaid') sydd yn GPC ond does dim cynnig ganddynt am y grefydd/enwad ei hun, sy'n anhygoel braidd. Beth am 'Drus' am yr enwad felly? Dwi am greu erthygl a bydd angen dau gategori hefyd; dyna pam dwi'n gofyn. Anatiomaros 16:47, 2 Chwefror 2009 (UTC)
- Anodd braidd - mae'n un o'r sefyllfaoedd lle mae pob un i'w weld braidd yn anfoddhaol. Mae'n debyg bod "Drus" am yr enwad cystal a dim (ac yn well na "Drws"!). Rhion 18:14, 2 Chwefror 2009 (UTC)