Sgwrs:Robin van Persie

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Credaf fod "gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf" yn dderbyniol gan ei fod yn cael ei ddefnyddio mor aml ar lafar ac yn ysgrifenedig gan ohebwyr a sylwebwyr ar BBC Cymru ac S4C Blogdroed (sgwrs) 06:47, 18 Mehefin 2014 (UTC)[ateb]

Cytunaf fod yr ymadrodd yn cael ei ddefnyddio'n fynych, ond, onid ydym yn anelu at gadw safonau ysgrifenedig sydd yn addas ar gyfer gwyddoniadur? Yn hynny o beth, awgrymaf nad ydym yn defnyddio idiomau Saesneg anffurfiol, anghywir, pan fo modd mynegi'r un peth yn ôl y modd Cymraeg priodol. Hefyd, hoffwn ddiolch i chi, gyda llaw, am eich gwaith: rydych wedi bod wrthi'n ddiwyd iawn ac mae'n braf gweld cymaint o gyfraniadau. Gobeithio eich bod chi'n mwynhau Cwpan y Byd!

Diolch! Ydw, dwi'n mwynhau!! Cytunaf fod angen cadw Cymraeg graenus, ond credaf fod sawl erthygl gyda gwallau iaith llawer gwaeth na'r defnydd o idiom sydd, efallai, erbyn hyn, yn ddigon derbyniol ;) Blogdroed (sgwrs) 10:56, 18 Mehefin 2014 (UTC)[ateb]

Digon teg, digon teg ;) Edrych mlaen at weld heno a fydd yr Iseldiroedd yn ymdopi â'r pwysau o ddod yn sydyn iawn un o'r ffefrynau!