Sgwrs:Robert Jones, Llongwr

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Bore da Gareth! Fedri di dynnu popeth lle mae barn ynddo ee "Onid yw’n rhyfeddol bod y bechgyn ifanc hyn yn cyfarfod ei gilydd yn Calcutta mor bell o’u cartrefi dros 140 o flynyddoedd yn ôl!" Fel pob gwyddoniadur, rhaid i'r testun fod yn wrthrychol, yn niwtral. Does dim angen llythrennau mawr mewn penawdau, na gofyn cwestiwn / ateb. Cymer olwg ar erthyglau Gwyddoniadur Cymreig (gol: John Davies), a dilyn ei arddull ef. Dyna, fwy neu lai, sydd yn Wicipedia hefyd. Mae rhyw ychydig yn wahanol ee mae'r dyddiadau gennym yn syml iawn: 12 Gorffennaf 1845 er enghraifft, nid 12fed o Orffennaf, 1834. Ac rydym yn dilyn dull cofnodi canrifoedd y Coleg Cymraeg ee 16g yn hytrach na yr unfed ganrif ar bymtheg neu 16eg ganrif. Wedi i ti gael cyfle i ailwampio hon, gad neges ar fy nhudalen Sgwrs i, plis, er mwyn i mi helpu ymhellach. Gyda llaw, fedri di ei dacluso o ran penawdau - pethau personol ar y brig, enwau llongau'n dilyn, y giwana yn ola. Erthygl sy'n dweud llawer am fywyd yr oes, ond mae na waith arni iddi fod yn arddull arferol rhen wici! Diolch a chofion! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:24, 1 Tachwedd 2017 (UTC)[ateb]