Sgwrs:Rhestr gramadegau Cymraeg (hyd 1900)

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia


Lle cyhoeddi gramadeg John Mendus Jones: Caernarfon ynteu Llanidloes?[golygu cod]

Beth yw dy ffynhonell? Mae fy nodiadau i yn dweud Llanidloes. Daffy 17:17, 19 Medi 2006 (UTC)[ateb]

Efallai dy fod yn iawn, Daffy. Mae gennyf gopi o'r ail argraffiad, a gyhoeddwyd gan H. Humphreys, Caernarfon, dim dyddiad, ond mae'r rhagymadrodd i'r argraffiad cyntaf, a geir yn argraffiad Humphreys, yn ddyddiedig Llanidloes, Ebrill 16eg, 1847. Blerwch ar fy ran i! Anatiomaros 17:33, 19 Medi 2006 (UTC)[ateb]

A gyhoeddwyd gramadeg Thomas Richards 1753 fel llyfr ar wahân?[golygu cod]

Daffi, cwestiwn bach! Mae gennyf gopi o Eiriadur Thomas Richards (Bryste, 1753), sy'n cynnwys adran 68 tudalen, A Brief Introduction to the Welsh or Antient British Language, ond ni fedraf ffeindio cofnod o lyfr gramadeg gan Richards. Lle gefaist y manylion? Dwi wedi edrych yn Llyfryddiaeth y Cymry (Gwilym Llŷn) a hefyd llyfr Charles Ashton, Hanes Llenyddiaeth Gymreig o 1650 i 1850. Mae llyfr Ashton yn arbennig yn eitha manwl ar waith awduron y cyfnod, bron i ddwy dudalen ar Richards, er enghraifft, ond nid oes sôn ganddo fo na G.Ll. chwaith am unrhyw lyfr arall gan Richards ar wahân i'r Thesaurus. Anatiomaros 23:09, 21 Medi 2006 (UTC)[ateb]