Sgwrs:Rhestr elfennau yn nhrefn yr wyddor

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Y drwg efo Cymreigio enwau personol ayb ydy ble goblyn mae rhywun yn stopio. Dw i'n meddwl fod Rutherffordiwm yn hurt bost; yden ni hefyd am newid enwau pobl megis Harrison Ford a beth am yr elfen Neptwniwm - ei gyfieithu i Neifioniwm? Llywelyn2000 22:03, 19 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Dwi'n cytuno. Nid yn unig yn gallu creu ffurfiau chwerthinllyd ond mae'n drysu rhywun yn lân : mae angen ailgyfeirio'r enwau Lladinaidd hefyd (a derbyn fod yr enw Cymraeg yn un safonol yn y lle cyntaf!). Oes 'na restr o enwau Cymraeg safonol ar gael? Dyna'r unig ateb. Anatiomaros 22:08, 19 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]