Sgwrs:Rhestr Tywysogion Cymru

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Rwyn teimlo y gall yna anhawsterau godi ynglyn a'r rhestr hon. Cyfeirir at feibion hynaf brenhinoedd Lloegr a dw i'n amau a gafodd llawer ohonynt hyd yn oed eu harwysgo i fod yn Dywysogion Cymru. Rwyn credu mai rhywbeth diweddar yw hynny - dw i'n credu mai ddechrau'r ganrif ddiwethaf y gwnaethpwyd y peth gyntaf.

Ond efallai yn bwysicach roedd gan Gymru dywysogion yn y cyfnod cyn 1283. Sut ydym yn mynd i wahaniaethu rhwng y ddau fath o dywysog.

Dw i'n sylweddoli nawr fy mod ym mynd i dir dadleuol efallai, ond fyddai y rhan fwyaf o haneswyr ddim yn adnabod y rhan fwyaf o'r rhai sydd ar y rhestr hon fel Tywysogion Cymru o gwbwl. Ar ol i Lywelyn Ein Llyw olaf gael ei ladd gan frenn Lloegr yn ol y stori fe wnaeth gynnig i'r Cymry dywysog na siaradiau air o Saesneg, a dyma fe n cynnig ei fab hynnaf nad oedd ond babi i'r Cymry. Twyl a sen ar Gymru y mae rhan fwyaf o Gymru yn teimlo yw hyn

Beth bynnag a benderfynnir bydd rhaid gwneud y gwahanaieth.

Dyfrig 20:35, 18 Ebr 2004 (UTC)