Sgwrs:Prydain Fawr

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Pwy yn union sy'n ystyried Cernyw yn bedwaredd genedl nas cydnabyddir yn swyddogol? Oes 'na ffynhonell ar gael? Daffy 17:49, 10 Medi 2006 (UTC)[ateb]

Mae'r hanes a'r sgwrs am erthygl 'Cornwall' yn y Wiki Saesneg yn dangos yr holl ddadlau sydd am genedligrwydd a statws Cernyw. Mae bodolaeth Mebyon Cernyw a'r mudiad iaith Gernyweg yn adlewyrchu awydd rhai Cernywyr i arddel eu cenedligrwydd Cernywig. Ond nid yw llywodraeth Llundain yn cydnabod Cernyw fel cenedl o gwbl, yn wahanol i achos Cymru - yn ôl San Steffan dim ond sir o Loegr ydyw Cernyw. Siswrn 20:45, 14 Medi 2006 (UTC)[ateb]

Beth am Ynys Prydain? Shelley Konk 15:20, 7 Rhagfyr 2006 (UTC)[ateb]

Mae'n ddrwg gennyf godi cymhlethdod arall ond gan y sonnir am Loegr, Cymru a'r Alban ( a Chernyw) oni ddylid cynnwys hefyd Ynys Manaw. Ond dw i ddim am wirfoddoli diwygio. Mae fy gwell i yma a all wneud hynny a bwrw bod yna gytundeb Dyfrig 23:02, 10 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]

Rwy'n meddwl fod Ynys Manaw fel rheol yn cael ei hystyried yn ynys ar wahan, yn hytrach nag yn un o'r yn ynysoedd oddi ar arfordir Ynys Prydain. Mae cyn agosed i ynys Iwerddon ag i Brydain. Rwy'n cytuno y dylid symud yr erthygl yma i "Ynys Prydain". Mae'r "Great" yn Saesneg i wahaniaethu rhwng Britain a Britanny, does dim angen hyn yn Gymraeg. Rhion 08:47, 11 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]