Neidio i'r cynnwys

Sgwrs:Popty microdon

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Mae offeryn yn cael ei gysylltu (yn ormodol efallai) gyda cherddoriaeth. Instrument yn saesneg. Dw i'n cytuno fod cyfarpar yn nes ati. Ysgol Rhiwabon 15:23, 5 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]

I was under the impression (not sure from where) that "offeryn" can mean either a tool (with plural "offer") or an instrument (with plural "offerynnau"). But that might be rubbish. Luke 15:27, 5 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Mae'r ddwy ystyr yn iawn, a dyna sy'n creu'r dryswch. Y broblem efo'r gair 'cyfarpar' ydy bod bron neb yn ei ddefnyddio. Does dim byd o'i le efo'r gair ei hun, ond "teclyn" ydy'r gair ar lafar yn y Gogledd am offeryn fel hyn. O ran hynny, mae'r termau 'offer cegin' neu 'offer coginio' yn llawer mwy tebyg o gael eu defnyddio na 'cyfarpar...'. Am "tools" yn gyffredinol, 'offer' piau hi, dwi'n meddwl (ond mae 'cyfarpar' yn air da am "equipment" yn gyffredinol). Mater o ddewis. Anatiomaros 16:07, 5 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Offer yw'r gair lluosog mae'r termiadur a geiriadur y BBC yn ei gynnig am "appliances", faswn i'n dwued mai offerynnau yw instuments. Dwi'n credu fod offer yn cael ei ddefnyddio'n fwy cyffredin yng nghyd-destun cegin felly mi fasi'n well gen i gael newid yn ôl i hwn yr roes i yn y lle cyntaf. Thaf 16:33, 5 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Ia, "offer" yw lluosog "offeryn" yn yr ystyr "tools" ac "offerynnau" o'r un gair yn yr ystyr "instruments".... Anatiomaros 17:04, 5 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Ewch ati. Luke 16:42, 5 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Dydy o ddim yn fater o bwys tragwyddol ac mae'n debyg fod arfer unigolion yn amrywio. Ond mae 'offer' yn bendant yn golygu "tools" ac yn cael ei ddefnyddio felly yn aml. "Offer" oedd gan y chwarelwyr at eu gwaith, ac mae archaeolegwyr a haneswyr yn sôn am "offer" yn yr ystyr "tools", e.e. John Davies: "Darganfuwyd offer trigolion Mesolithig Cymru..." ond "cyfarpar" ganddo yn yr ystyr "equipment": "Cyfarpar cain yn ymwneud â marchogaeth yw cyfran helaeth ohonynt...". Mae'r term "cyfarpar" yn gallu cynnwys offer a phob math o bethau eraill. 'Mond allan o ddiddordeb! Anatiomaros 17:01, 5 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]