Sgwrs:Patxi Zubizarreta

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

"Euscareg"[golygu cod]

Cafwyd trafodaeth am y term honedig hwn ar Sgwrs:Euscareg. Does dim tystiolaeth o gwbl fod y gair yn ddilys. Yr unig gyfeiriadau ar y we dwi wedi gweld ydy rhai at ddalennau wici am y ffeil Basque_dialects.svg a'r unig reswm am hynny yw bod 'Euscareg' yn ailgyfeiriad gennym ni ac felly'n cael ei nodi yno fel dolen. Yn wyneb y diffyg dystiolaeth dwi ddim yn meddwl fod unrhyw gyfiawnhad o gwbl dros gynnwys y gair "Euscareg" fel enw amgen am y Fasgeg mewn erthyglau ar y Wicipedia. Rydym yn dibynnu ar ffynonellau er mwyn ein hygrededd; heb ffynhonnell barchus mae hyn yn tanseilio'r hygrededd hwnnw. Ydy pawb yn cytuno? Anatiomaros 18:10, 1 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Dwi'n methu gweld unrhyw dystiolaeth fod y gair yn cael ei ddefnyddio gan rywun neu rywrai yn lle'r enw Cymraeg safonol - a'r unig enw Cymraeg o ran hynny - sef Basgeg. Hoffwn ofyn i Betroc beidio ei ddefnyddio mewn erthyglau, hyd yn oed rhwng cromfachau, oni bai fod ganddo dystiolaeth gadarn a ffynonellau safonol i ddangos am ei ddefnydd yn y Gymraeg. Anatiomaros 19:32, 1 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Does dim dwywaith amdani: Nid yw Euscareg yn dderbyniol. A does dim angen gosod yr enw "Euskara" ar ôl y gair "Basgeg" chwaith. Dw'i'n deall mai lle grêt llawn pobl ddifyr ydi Gwlad y Basg, ond gwyddoniadur ydi'r lle 'ma, nid rhyw herriko taberna yn Zarautz. Sanddef 01:21, 2 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Tra rwy'n cytuno nad oes sail i'r ffurf "Euscareg", dydw i ddim yn credu fod sylwadau fel yr uchod (gan Defnyddiwr:Y ddraig felyn) yn gymorth o gwbl i adeiladu gwyddoniadur. Rhion 08:34, 2 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]