Sgwrs:Paladr

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Ambell bwynt bach...[golygu cod]

A fyddai'n well symud hyn i 'Paladr' efallai, am ein bod yn tueddu i ddefnyddio enwau unigol ac eithrio wrth sôn am grŵp o bethau neu bobl? Hefyd, be ydy ystyr "golau delfrydol", allan o ddiddordeb? Dywi ddim yn wyddonydd ond dydy o ddim yn gwneud llawer o synnwyr i mi. Anatiomaros 16:08, 9 Mai 2009 (UTC)[ateb]

"In optics, a ray is an idealized narrow beam of light." Daeth idealized allan fel delfrydol yn y termiadur Cymraeg. Mae i fynu i chi beth chi'n galw'r tudalen- bydd yna ailgyfeiriad anyway! Rhys Thomas 17:23, 9 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Diolch am yr eglurhad, Rhys, er mai rhaid i mi gyfadde dydy "idealized narrow beam..." ddim yn fy ngoleuo llawer chwaith(!). Os dyna ydy'r term arferol popeth yn iawn, ond i mi mai 'delfrydol' yn awgrymu rhywbeth haniaethol, perffaith. Ond ta waeth. Am y gair 'pelydr'/'paladr', ar ôl meddwl amdano a chwilio mewn geiriaduron dwi'n meddwl y buasai'n well fel tudalen gwahaniaethu efallai. Mewn ffiseg ceir sawl math o belydr, dim golau yn unig (pelydrau radio, pelydrau-X ayyb). Wedyn mae'r gair Cymraeg 'pelydr' gyda sawl ystyr ac mae 'paladr' (=pelydr!) yn waeth byth (ffurf luosog sy'n bod hefyd fel ffurf unigol yw 'pelydr') ac yn cynnwys gwaywffon, paladr englyn, pelydr yr haul (ydy sunbeam yn haeddu erthygl?) a phlanhigyn ayyb. Digon i ddrysu rhywun yn lân! Dwi'n awgrymu cael Pelydr fel tudalen gwahaniaethu felly, gyda Paladr yn ailgyfeirio ato (neu v.v.). Ydy hynny'n iawn gen ti? Beth am enw yr erthygl hon os symudwn hi? Pelydr goleuni? Ti ydy'r gwyddonydd! Anatiomaros 18:10, 9 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Dwi'n credu fy mod wedi sortio fe allan! Teitl yr erthygl saesneg am y belydr mewn ffiseg oedd "Ray (optics)" felly rwyf wedi galw'r dudalen yn Paladr (opteg). Mae'r erthygl Paladr neu Pelydr nawr yn mynd i tudalen gwahaniaethu- gallwn ychwanegu fwy am belydrau arall i'r dudalen yma! Hwyl, Rhys Thomas 21:40, 9 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Grêt, mae hynny'n welliant. Dwi wedi ychwanegu enghreifftiau eraill hefyd. Anatiomaros 22:15, 9 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Henffych! O ran golau (hy symudiad ffoton), gyfeillion, pelydryn ydy'r unigol a phelydrau ydy'r lluosog! O ran pelydr-X, wel pelydr, wrth gwrs. Llywelyn2000 22:20, 9 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Dylai Paladr (opteg) cael ei symud i "Pelydryn (opteg)" ? Mae'r holl pelydrau yma mor confusing :S Rhys Thomas 23:18, 9 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Dylai, yn fy marn i, Rhys. Mae'n fwy naturiol. Pelydrau o olau sy'n cael ei ddweud yn naturiol, ar lafar gan Gymry naturiol eu hiaith. A phelydryn yw'r unigol. Llywelyn2000 23:43, 9 Mai 2009 (UTC)[ateb]