Sgwrs:Y Babes Siân

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Sgwrs:Pab Joan)

Ai Pab Siwan (neu Siân) y dylai hon fod, am fod enwau'r Pabau eraill (y rhai a oedd yn bodoli!) wedi'u Cymreigio? Neu ydi hynny'n ormod o fathiad newydd? Ham 21:51, 23 Hydref 2006 (UTC)[ateb]

Cwestiwn da. Roeddwn i'n cloffi rhwng dau feddwl fy hun cyn dechrau arni! Siwan fyddai'r dewis naturiol yng Nghymraeg (siwtio'r cyfnod hefyd), ond ar y llaw arall dwi'n meddwl weithiau fod y fusnes 'ma o Gymreigio pob dim bron yn mynd yn rhy bell weithiau. Beth am "Siôn Wayne" neu "Siôr Bwsh (yr Ail, Arlywydd yr Amerig)"?! Mae angen cysoni'r defnydd o enwau (personau a llefydd) ar y wiki Cymraeg - dwi'n drysu'n lân efo nhw weithiau. Yn yr achos hwn does dim traddodiad Cymreig am yr enw, felly dwi wedi dewis Joan... Anatiomaros 22:54, 23 Hydref 2006 (UTC)[ateb]
O.N. Newydd sbïad ar yr enwau yn y rhestr pabau. Mae'n anghyson eto. Er enghraifft Leo (Llew?), Alexander (Alecsandr yw'r ffurf Gymraeg), Celestine (Selestîn?), Innocent (Inosent?) a Juliws am y Julius gwreiddiol (ond beth am y Cymreigiad adnabyddus Iŵl?). Pwynt arall - yn rhy aml o lawer mae tudalennau yn cael eu creu heb dudalen/nau ail-gyfeirio iddynt, e.e. o Honorius II i Honoriws II. Mae gennym ni'r cyfranwyr fwy o amynedd i chwilio efallai, ond dwi'n ofni y bydd llawer o "ymwelwyr" yn rhoi'r ffidil yn y tô ymhell cyn cael hyd i rai o'r tudalennau "cudd" sy'n llechu yma! Dwi wedi cychwyn ar y llenorion Lladin ers sbel ac wedi cadw'r enwau gwreiddiol gydag ambell eithriad fel Fyrsil ac Ofydd (ffurfiau Cymreig ers yr Oesoedd Canol) - pa obaith fyddai gan rywun o ffeindio "Cwintws Gargiliws Marsialis" (Quintus Gargilius Martialis)? Anatiomaros 23:14, 23 Hydref 2006 (UTC)[ateb]