Y Babes Siân
Y Babes Siân | |
---|---|
Ganwyd | Mainz |
Bu farw | 850s Rhufain |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, clerig |
Roedd y Babes Siân[1] yn ferch anhysbys y dywedir amdani ei bod wedi treulio cyfnod o ddwy flynedd neu fwy fel pab yn Rhufain.
Martin o Troppau
[golygu | golygu cod]Yn ôl croniclau Martin o Troppau, a ysgrifennwyd tua'r flwyddyn 1250, llwyddodd merch wedi'i gwisgo fel dyn i gael ei hethol yn bab gyda'r teitl pabaidd Johannes VIII (Ioan VIII). Nid oes cyfeiriad ati yn y Liber Pontificalis, y cofnodion swyddogol o'r pabau, ond fe honnir ei bod wedi dal swydd y pab o 855 hyd 858. Yn ôl hanes swyddogol yr Eglwys Gatholig, Pab Bened III oedd yn bab am y blynyddoedd hynny.
Steffan o Bourbon
[golygu | golygu cod]Mae traddodiad arall, a gofnodir gan Steffan o Bourbon, brawd Dominicaidd a flodeuai yn y 13g, yn honni bod Siân wedi cael ei hethol tua'r flwyddyn 1100 a'i bod wedi esgor ar blentyn ar ei ffordd i'r Fatican. Roedd jôc Lladin yn cylchredeg ymhlith y boblogaeth mai "mam nid tad (Papa)" oedd y pab newydd: non papa sed mama.
Traddodiad arall
[golygu | golygu cod]Yn ôl traddodiad arall, mwy rhamantaidd, roedd hi'n ferch ifanc o'r 9g, naill ai o Loegr neu o Mainz yn yr Almaen. Syrthiasai mewn cariad â mynach Benedictaidd, croeswisgodd er mwyn teithio yn ei gwmni, enillodd glod am ei dysg a chafodd ei wneud yn gyntaf yn gardinal ac yn ddiweddarach yn bab.
Ffynhonnell
[golygu | golygu cod]- J. C. J. Metford, Dictionary of Christian Lore and Legend (Llundain, 1983)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, s.v. "Joan"