Sgwrs:Newid hinsawdd

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Marciwyd fersiwn blaenorol gan rhywun gydag arwydd hawlfraint - dim ond pethau heb hawlfraint gellir eu cyfrannu i wicipedia. Os mae yna deunydd dan hawlfraint ynddo, dywedwch yma, i ni cael ei newid. cofion --Llygad Ebrill 18:40, 25 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]

Dwi'n credu mai rhywun yn tynnu coes oedd y 'cyfrannwr' - hyn a fandaliaeth (Ysgol Tryfan) oedd ei unig gyfraniadau. Anatiomaros 20:02, 25 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]

Newid enw[golygu cod]

Dwi'n credu dylwn ni newid enw'r erthygl hon i "Cynhesu Byd Eang" ac yna creu erthygl arall am newid hinsawdd yn gyffredinol. Glanhawr 12:30, 19 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Syniad da. Alan 18:37, 19 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Byddai'n well gen i weld yr erthygl dan y teitl "Newid hinsawdd". Defnyddir y term i gyfeirio at y newidiadau cyfredol bron iawn yn ddieithriad - go brin y soniwyd amdano yn Gymraeg gynt. Gan fod mwy o newidiadau na dim ond cynhesu (e.e. stormydd, sychdra ac ati) wedi eu rhagfynegi, nid yw'r term "cynhesu byd eang"/"global warming" yn cyfleu holl oblygiadau'r sefyllfa. Dyma'r rheswm fod gymaint o gyrff sy'n ymwneud â'r mater yn dewis "newid hinsawdd" neu debyg (cf. Comisiwn Newid Hinsawdd, Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd o du Llywodraeth y Cynulliad, yr IPCC yn ryngwladol). Da gweld tyfiant ar yr erthygl gyda llaw. --Llygad Ebrill 13:06, 22 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Diolch. Rydych chi'n iawn, bod y newid hinsawdd diweddar yn effeithio ar fwy na'r tymheredd. Ond rhaid i ni hefyd wahaniaethu rhwng yr newid hinsawdd ers y chwyldro diwydiannol, sy'n digwydd oherwydd cynnyrch o garbon deuocsid, a'r pwnc cyffredinol o newid hinsawdd, sy'n cynnwys newidion eraill a ddigwyddodd yn y gorffennol am resymau eraill. Mae pob un o'r dau yn haeddu erthygl, felly rhaid meddwl am ddau deitl, nid un. Beth basai'r llall? Alan 15:32, 22 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Dolen wallus[golygu cod]

Gwirwyd y ddolen sawl tro ac fe'i cafwyd yn wallus. Trwsiwch neu ddilewch hi os gwelwch yn dda.

--Hazard-Bot (sgwrs) 04:45, 2 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]

Dolen wallus 2[golygu cod]

Gwirwyd y ddolen sawl tro ac fe'i cafwyd yn wallus. Trwsiwch neu ddilewch hi os gwelwch yn dda.

--Hazard-Bot (sgwrs) 04:45, 2 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]

Newid enw![golygu cod]

Dyma godi'r mater hwn eto, dros 10 mlynedd yn ddiweddarach! "Newid hinsawdd" yw'r term safonol a mwyaf cyffredin i drafod y broblem gyfredol yn Gymraeg erbyn hyn. Os nad oes gwrthwynebiad, dw i'n cynnig symud yr erthygl dan yr enw hwnnw i "Amrywiad hinsawdd" neu "Amrywiad a newid hinsawdd" (fel gyda'r erthyglau cyfatebol ar en: fr: eu: ac ati), gan symud yr erthygl yma i Newid hinsawdd. Llygad Ebrill (sgwrs) 17:24, 14 Medi 2022 (UTC)[ateb]