Sgwrs:Nadolig

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Apostolaidd...[golygu cod]

Beth ar wyneb y ddaear yw ystyr 'Apolistaidd' ("Eglwys Apolistaidd Armenia")? Addolwyr Apollo efallai?! Jest allan o ddiddordeb. Anatiomaros 20:52, 20 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]

Gweler Armenian Apostolic Church. Falle bod na gyfieithiad gwell i gael.
Gyda llaw - yn swyddogol, nid yw penblwydd bellach yn un gair, os edrychi di mewn geiriaduron cyfoes, ceir ei sillafu fel 'pen-blwydd', dyma sut mae'r cyrff cyhoeddus yn ei sillafu bellach hefyd. (Dwi'n casau'r newid fy hun, roedd penblwydd yn ddigon da pan o'n i'n blentyn, be sydd wedi newid ers hynnu heblaw faint more 'pedantic' ydy'r golygyddion!?) Thaf 21:43, 20 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]
Diolch Thaf. 'Apostolaidd' fyddai'r term yn Gymraeg felly. Mae'n debyg dy fod yn iawn am 'pen[-]blwydd' hefyd - fel tithau dwi'n arfer defnyddio'r hen ffurf ers blynyddoedd! Ond mae geiriadurwyr cyfoes yn creu dryswch di-angen weithiau. Roeddwn i'n meddwl mai 'penblwydd' oedd y ffurf boblogaidd ond "anghywir" ac mai 'pen blwydd' yw'r ffurf safonol. Ar ôl edrych rwan dyna sydd gan Geiriadur Prifysgol Cymru gyda 'penblwydd' a 'pen-blwydd' yn "ail-gyfeirio" yno! Anatiomaros 22:17, 20 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]
Pen-blwydd sy'n ymddangos yng nghatalogau llyfrau plant Sbondonics a Sbri-di-ri sy'n cael eu cyhoeddi gan Gyngor Llyfrau Cymru felly efallai mai dyma'r ffurf fydd plant y dyfodol yn gyfarwydd gyda! Thaf 22:24, 20 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]

"Neges"?[golygu cod]

Dwi wedi tacluso chydig ar yr erthygl. hefyd wedi cael gwared o'r pontificating ar y diwedd. Oes angen yr adran yma o gwbl? Meigwil 23:31, 23 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]

Pwynt teg. Dwi'n cytuno â'th olygiad (osgoi mynegi barn ayyb), ond efallai bod lle i adran fer ar "ystyr y Dolig heddiw" neu rywbeth tebyg gan fod sawl barn amdani yn y gymdeithas aml-ddiwylliannol gyfoes (gŵyl seciwlar ydy i lawer erbyn hyn, heb fawr ystyr grefyddol, er enghraifft). Ond yn bendant mae'n well heb y "ponticifating"! Anatiomaros 23:46, 23 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]
Byddai "pontificating" gyda ffynhonnell yn dderbyniol. Rhaid bod gweinidogion Cristnogol enwog sy wedi dweud rhywbeth am y pwnc hwn. Luke 12:13, 24 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]
Ia, basa hynny'n dderbyniol, ond gyda mwy nag un farn a safbwynt yn cael ei fynegi, er mwyn cytbwysedd. Anatiomaros 15:08, 24 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]