Sgwrs:Madeleine Moon

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Ydy "YPS" yn cael ei ddeall yn gyffredinol? Dwi'n gwybod y defnyddiais i fe mewn erthygl arall, ond roedd hon ar ôl ysgrifennu "Ysgrifennydd Preifat Seneddol" yn llawn yn y frawddeg ddiwethaf. A ddylai fod yn "Ysgrifenyddes Breifat Seneddol" pan ddisgrifiwyd menyw? Alan 20:12, 3 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Cwestiwn da sydd ddim mor syml i ateb. Dwi ddim yn gwybod os ydy'n wir yn yr achos yma, ond dydy pobl ddim yn cyfeirio at rwyun yn y llywodraeth fel 'Gweinidoges' fel rheol - e.e. mae'r BBC yn galw Edwina Hart yn 'Gweinidog Iechyd', e.e. "Gweinidog Iechyd wedi cael ei beirniadu" (yma), ond sylwer "ei beirniadu", er bod 'gweinidog' yn enw gwrywaidd, wrth gwrs. Efallai fod hynny'n wir am PPS hefyd. Sori fedra' i ddim bod yn fwy o help! Anatiomaros 20:46, 3 Hydref 2008 (UTC)[ateb]