Sgwrs:Llyfrau ab Owen

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Erthygl ddiddorol. Dywedir, "Enwyd y llyfrau ar ôl mab y golygydd, Ab Owen." Nid Syr Ifan, felly? Beth yw ffynhonnell y datganiad hwn?

Hmm, roeddwn i wastad yn meddwl mai at Ifan ab Owen yr oedd yr enw yn cyfeirio hefyd. Ni fu farw yn ifanc, wrth gwrs. Anatiomaros 20:35, 27 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Yn amhroffesiynol iawn, darn o'm gwybodaeth wedi troi'n ddamcaniaeth dros dro yw hyn. Gwn fod gan O.M. fab o'r enw Ab Owen, ac iddo farw'n ifanc, o'r ddarfodedigaeth neu rywbeth tebyg. Fe ysgrifennais i'r erthygl ychydig oriau'n ôl (wele'r nodyn yn y golygiad) gan obeithio y byswn i'n dod o hyd i rywbeth i gefnogi'r hyn sy'n debygol o fod yn wir! Yn anffodus, does gan y Cydymaith ddim i'w ddweud, felly mi wna'i dynnu'r darn hwnnw nes gallaf ei gefnogi'n iawn. Eisingrug 21:04, 27 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Dwi'n methu cael hyd i ddim hyd yn hyn hefyd. Wedi edrych yn: cofiant anorffenedig W.J. Gruffydd (heb fynegai!), y bennod hir yn Dewiniaid Difyr, ac ambell le arall. Dim byd! Anatiomaros 21:44, 27 Awst 2010 (UTC)[ateb]