Sgwrs:Llundain

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Prifddinas[golygu cod]

Dwi wedi newid 'Gwledydd Prydain' i 'Deyrnas Unedig' yn y frawddeg agoriadol, sef "Prifddinas y Deyrnas Unedig (a hefyd prifddinas Lloegr) yw Llundain". Yn fy marn i dydy'r term 'Gwledydd Prydain' ddim yn gyfystyr â'r DU. Dwi'n defnyddio'r term yn aml ond dydwi byth yn meddwl fod Gogledd Iwerddon yn un o wledydd Prydain (dydi hi ddim yn wlad a dydi hi ddim ym Mhrydain). Llundain yw prifddinas y wladwriaeth a elwir yn 'Deyrnas Unedig Prydain a Gogledd Iwerddon': dydy Prydain ddim yn wlad nac yn wladwriaeth ond yn gartref i dair gwlad (Cymru, Lloegr, Yr Alban) a thair cenedl (ni, yr Albanwyr a'r Saeson). Anatiomaros 15:40, 10 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Cytuno i anghytuno. :) Llywelyn2000 16:21, 10 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Dwi wedi newid dy olygiad o: Cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru - sy'n llawer mwy perthnasol na'th awgrym Rhufain Hynafol gan mai ymwneud a'r Eidal ayb mae hwnnw. Yn ddelfrydol, dylai fod gennym ni erthygl: Y Rhufeiniaid yng Ngwledydd Prydain; efallai fod? Llywelyn2000 16:21, 10 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Meddwl oeddwn i fod dolen at y Rhufeiniaid yng Nghymru yn edrych yn od braidd. Mae Rhufain hynafol yn delio â phob dim am y Rhufeiniaid, yn cynnwys yr ymerodraeth. Rwyt ti'n iawn fod dirfawr angen yr erthygl am y Rhufeiniaid ym Mhrydain ond yn absenoldeb hynny efallai byddai dolen at Yr Ymerodraeth Rufeinig yn well (dyna'r cyfnod, sy'n cynnwys hanes meddianu rhan helaeth o Brydain). Maddeua i mi am fod yn "bedantig" efallai am ystyr y term gwledydd Prydain (dwi byth yn defnyddio "G" fawr chwaith), ond dwi'n siwr dwi ddim yr unig un sy ddim yn cynnwys Gogledd Iwerddon ynddo. Hefyd mae'n golygu llawer mwy na'r gwladwriaeth/deyrnas fondigrybwyll; pe bai honno'n diflannu byddai gwledydd Prydain - Cymru, yr Alban a Lloegr - yn aros. Diolch am ddechrau twtio ac ehangu'r erthygl hefyd, Llywelyn: mae'n warthus o annigonol, fel sawl un o'n erthyglau pwysig (dyna'r gwledydd, er enghraifft - paragraff a map yn achos y rhan fwya o nhw!). Anatiomaros 17:10, 10 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Lle ma stwff Hanes Llundain fi di mynd? Sai wedi gorffen cyfieithu eto? Rhys Thomas 17:01, 10 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Doeddwn i ddim yn deall dy fod am ei gyfieithu? Beth am ei wneud ar Word, a'i roi ar Wici ar ol iddo gael ei orffen? PS Ro'n i'n meddwl mai disgwyl i mi wneud y gwaith yr oeddet!!! (yr hen genna drwg!) Llywelyn2000 17:07, 10 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Ah, reit! Gan fod yna erthygl gret am Efrog Newydd (diolch i Rhodri), roeddwn am ychwanegu mwy i'r erthygl Llundain! Hwyl, Rhys Thomas 17:26, 10 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Angen Ffynhonnell[golygu cod]

Gwn nad oes fawr o ffynonellau yn yr erthygl gyfatebol Saesneg, ond mae eu hangen arnom ni. Bron fod angen ffynhonnell i bob datganiad gydag erthyglau 'gwleidyddol' fel hyn. Nid erthygl am rwdins, nionod na bresych sydd yma. Dyna ydyw'r un Saesneg i'r Saeson, erthygl amholiticaidd, niwtral, eithr nid felly i bob gwlad arall! Gadewch i ni ddarganfod a gosod y ffynonellau, fel bod ein herthygl ni ar Lundain yn well, yn fwy geirwir na'r un Saesneg. Llywelyn2000 12:43, 11 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]