Sgwrs:Iwcalili

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

wcwlele[golygu cod]

Oes gan rywun ffynhonnell am 'wcwlele' am ukulele? Beth bynnag am y sillafiad cywir mewn print, dydwi erioed wedi clywed y gair hwn o'r blaen. Mae'n swnio'n ddiarth a chwithig i'r glust. Bathiad ydy o? Mae chwilio ar ywe yn darganfod sawl enghraifft o 'iwcalili', er engrhaifft yma (adolygiad o albwm Gwibdaith Hen Frân), yma (Cyngor Sir Ynys Môn) ac yma (Gwerin y Coed), a hefyd gan yr Urdd (mewn ffeiliau pdf). Yr unig enghraifft o 'wcwlele' sydd i'w gweld yw Hafan Wicipedia (mae Google yn gyflymach y dyddiau hyn!). Dwi ddim yn arbennig o hoff o'r sillafiad 'iwcalili' chwaith, ond mae'n agosach o lawer i'r hyn byddai'r rhan fwyaf ohonom ni'n ddeud na'r llall ac fe'i ceir ar y we. Anatiomaros 21:52, 5 Rhagfyr 2010 (UTC)[ateb]

Iwcalili fasem ni'n ei argymell; mae'n sillafiad sy'n nes at yr ynganiad. Ysgol Dinas Bran 08:07, 6 Rhagfyr 2010 (UTC)[ateb]
Diolch YDB. Dwi'n cytuno, wrth gwrs. Wna i aros am ddiwrnod neu ddau rhag ofn bod hyn i'w gael yn Geiriadur yr Academi. Methu cael hyd iddo yn fy ngeiriaduron i. Anatiomaros 23:21, 6 Rhagfyr 2010 (UTC)[ateb]
"Iwcalili" dywed Geiriadur yr Academi hefyd. Ewch ymlaen â newid yr erthygl, YFMI. Cdhaptomos 10:38, 7 Rhagfyr 2010 (UTC)[ateb]
Diolch am y wybodaeth. Symudwyd. Anatiomaros 23:32, 7 Rhagfyr 2010 (UTC)[ateb]