Sgwrs:Hiliaeth ym myd pêl-droed

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Cefnogwyr PSG[golygu cod]

Bu'r fenter yn aflwyddiannus wrth i griwiau hiliol ymysg torf PSG ganu "Come on the whites." Atgyfnerthwyd yr ensyniadau hiliol, gyda synnau mwncïod yn dod o gyfeiriad yr eisteddle Kop of Boulogne, pan fyddai chwaraewyr Lens yn cael meddiant o'r bêl

Dw i'n gwybod mai o erthygl Saesneg y daeth y wybodaeth, ond a'i yn Saesneg fyddant wedi gweiddi hyn? Mae yn bosib wrth gwrs, gan bod grwpiau hwliganiaid tramor yn aml yn ceisio efelychu a dynwared grwpiau Seisnig yr 80'au, ond mae'n edrych yn rhyfedd dyfynu Ffrancwyr yn Saesneg mewn erthygl Gymraeg.--Ben Bore 11:05, 30 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Digon teg! Dwi'n cytuno... ond beth fyddai'r cyfieithiad Cymraeg mwyaf naturiol? "Dewch 'mlaen y gwynion!"?? Rhodri77 11:50, 30 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Dwi wedi cynnig y cyfieithiad "C'mon y Gwynion!" ac ambell beth arall. Yn sicr does dim synnwyr mewn cael dyfyniadau Saesneg yma. Anatiomaros 17:05, 30 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
I chwarae'n saff, waeth ni ddefnyddio un Cymraeg, ac mae 'C'mon' fwy neu lai yn Gymraeg ;-) , er mae'n wirioneddol bosib mai yn Saesneg oeddynt yn bloeddio, ond does dim ffordd o wybod.--Ben Bore 20:39, 30 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]