Sgwrs:Hacio'r Iaith

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Hepgor enwau unigolion[golygu cod]

Yn fy ngolygiad diwethaf, tynnais enw pedwar cyfranwr o'r erthygl gan nad yw'n cydfynd ag ethos Hacio'r Iaith (sef gall unrhyw un gyfrannu a bod cyfraniad pawb o'r un bwys), nac ychwaith yn adlewyrchu'r ffaith bod cymaint o bobl yn rhan o'r peth (e.e. mae'r tri anghynhadledd diwethaf wedi cynnwys cyflwyniadau gan dros 20 unigolyn gwahanol, heb son am eraill a weithiodd tu cefn i'r llen fel hyrwyddwyr, technegwyr a hwyluswyr).

Os dylid enwi unrhyw un, yna dylid crybwyll Rhodri ap Dyfrig, gan mai ei syniad o ydy'r holl beth, a fo (gyda chefnogaeth hael Prifysgol Aberystwyth) sy'n sicrhau bod y prif digwyddiau yn cael eu trefnu a'u cefnogi gyda'r nawdd a'r adnoddau angenrheidiol. Yn anffodus, gan eu bod mor ddiymhongar, does fawr o son am hyn yn unrhyw gyhoeddiadau, felly mae'n anodd iawn rhoi cyfeiriadau atynt!.--Ben Bore (sgwrs) 20:49, 11 Awst 2012 (UTC)[ateb]