Sgwrs:Gwn haels

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Terminoleg[golygu cod]

Enw ar fath o 'shotgun' yw gwn haels, nid 'shotgun' yn gyffredinol. Dylid newid enw'r erthygl hon i'r term addas o'r herwydd. —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan 109.181.30.13 (sgwrscyfraniadau) 21:51, 3 Ebrill 2019‎

Beth yn union ydy'r gwahaniaeth rhwng gwn haels a shotgun, os ca'i ofyn? Yn anffodus, nid oes cytundeb ynghylch terminoleg arfau gan heddluoedd Cymru. Mae Heddlu'r Gogledd yn defnyddio "gwn haels" am shotgun yma, ond fel arall yn defnyddio "gwn saethu", a "dryll tanio" am firearm ([1], [2]). Mae gwn saethu braidd yn ailadroddus: mae pob gwn yn saethu! (Mae'r elfen shot yn yr enw Saesneg, wrth gwrs, yn cyfeirio at yr haels neu'r pelenni.) Mae Heddlu Dyfed-Powys yn defnyddio "arfau saethu" am firearms a "drylliau" (heb ragor o ddisgrifiad) am shotguns. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 11:41, 6 Ebrill 2019 (UTC)[ateb]