Sgwrs:Gofod Baire

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Fi greodd hwn, roedd rhywbeth wedi f'allgofnodi wrth i mi sgwennu. Mae'n tarddu o'r erthygl en:Baire category theorem yn ogystal a'r un a rhyngwicid iddi. Dwi wedi defnyddio tew/tenau yn hytrach na first/second category, am fod y termau arferol saesneg yn annefnyddiol braidd (O.n. ceir meagre/non-meagre fel enwau amgen yn saesneg) --Llygad Ebrill 17:47, 25 Mai 2007 (UTC)[ateb]

Mae'r Termiadur yn cynnig caefa am closure. Ni ches fawr o help arall gan y Termiadur na Geiriadur yr Academi heblaw bod Geiriadur yr Academi yn cynnig 'prin', 'annigonol', 'tenau' a 'pitw' am 'meagre'. Byddai 'pitw' yn siwr o gyfleu'r ystyr 'meagre' yn iawn fan hyn. Ond beth fyddai non-meagre? Mae'n wir bod 'tew' yn cyfleu'r gwrthwyneb i 'tenau' yn dda. Ydy 'amhitw' yn bosibilrwydd? 'Digon, digonedd, llond gwlad, helaethrwydd, llawnder, toreth' yw'r cynigion am 'plenty'.
Rwyn credu bod gwell osgoi 'mydradwy' oherwydd mai'r ystyr mydr ar gân neu mewn barddoniaeth (patrwm y llinellau) yr wy'n cysylltu â hwn. Beth am 'metradwy'?
Beth am 'Gwireb y Dewis' am 'Axiom of Choice'?
Mae'r cynigion eraill yn taro'n dda, ond cofiwch nad wy'n fathemategydd, ac felly yn ansicr a wyf wedi deall y termau'n drwyadl. Lloffiwr 18:32, 7 Hydref 2007 (UTC)[ateb]