Sgwrs:Gaeleg yr Alban

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Gaeleg yn yr Iseldiroedd[golygu cod]

Meddai'r erthygl:- "Yn groes i'r farn gyffredinol, 'roedd Gaeleg yn cael ei siarad dros yr rhan fwyaf o Iseldiroedd yr Alban ar un adeg, yn ogystal â'r Ucheldiroedd, ac mae enwau lleoedd o darddiad Gaeleg yn niferus yn ne a dwyrain y wlad." Mae'n wir fod llawer o enwau o darddiad Gaeleg yn Ne a Dwyrain yr Alban. Hefyd, mae llawer o enwau o darddiad Ffrangeg led-led Lloegr. Beth ydy'r cyswllt? Daeth y Normaniaid (yn siaradwyr Ffrangeg) yn llwyodraethwyr Lloegr (a Chymru) yn union fel y daeth y Sgotwyr yn llywodraethwyr yr Alban. Felly, 'roedd llawer o lefydd yn Lloegr yn cael eu henwi mewn ffurf Ffrangeg - ac llawer yn yr Alban mewn ffurf Aeleg - er nad oedd fawr o'r boblogaeth yn siarad yr ieithoedd hynny. [gan John Morton]

Treigladau[golygu cod]

Ydy'n iawn galw meinhau/taflodoli'n dreiglad yng nghyd-destun yr Aeleg? Neu a ddylwn i fynd am gyfnewid cytseiniol neu rywbeth tebyg i gwmpasu'r treiglad meddal a meinhau? Llusiduonbach (sgwrs) 13:11, 2 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]