Sgwrs:Ffwc

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Yn fy marn i, does dim llawer o fantais mewn ail-adrodd cynnwys y dudalen rhyw.

Os mae rhagor yn dywedadwy am ddefnydd y gair "ffwc" (neu "ffycio"), fel yn yr erthygl Saesneg en:Fuck, allai hynny fod yn addas. Ond mae rhaid bod digon er mwyn i fod yn fwy na geiriadur. Os nac oes, gellir greu dudalen fyr yn Wiktionary. Alan012 13:31, 13 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Dwi'n tueddu i gytuno. Nid dyma'r lle i fynd i fewn i fanylion cyfathrach rhywiol, fel ti'n ddeud. Ac os am gael erthygl am y gair ei hun - sy'n air diweddar yn y Gymraeg, wedi'i fenthyg o'r Saesneg - oes 'na ddigon o ddeunydd? Nid dyma'r unig air sy'n disgrifio'r weithred chwaith; ydym ni am gael erthyglau hefyd am "cnychu" a "cwtsio" ayyb? Anatiomaros 19:45, 13 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Cytuno. Mae e'n ailadroddllyd. Ychwanegu'r gair i'r geiriadur fel yr awgrymit. Fy mwriad gwreiddiol oedd dangos fod Wici yn fodern yn ei weledigaeth, ac mae angen hynny. (Llywelyn2000)

Dwi'n cytuno â sylw olaf Llywelyn a does gennyf ddim byd yn erbyn cynnwys pethau tebyg na bod yn "fodern", ond rhaid fod digon o ddeunydd ar gael i gyfiawnhau erthygl ar wahân (mae'r sefyllfa'n wahanol yn achos y gair Saesneg gan fod ganddo hanes hir a sawl defnydd arall fel ymadrodd ayyb). Dwi am ailgyfeirio'r dudalen at Cyfathrach rywiol felly. Gellid ychwanegu adran am eiriau ac ymadroddion Cymraeg yn yr erthygl honno. Anatiomaros 19:54, 14 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]