Sgwrs:Ffrainc

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Enw'r weriniaeth[golygu cod]

Mae "Gweriniaeth Ffrengig" am "République française" yn swnio'n anghymreig iawn i mi, ac rwyf wedi troi'r enw'n ôl i 'Gweriniaeth Ffrainc'. Fuasai neb yn galw Gweriniaeth Iwerddon yn 'Gweriniaeth Wyddelig'. 'Dydi'r Gymraeg ddim mor barod â rhai ieithoedd eraill i droi enwau priod yn ansoddeiriau, ac mae eisiau peidio troi pethau'n rhy air-am-air. (Buasai rhaid dweud 'Y Weriniaeth Ffrengig' hefyd).

Os oes teitl awdurdodedig yn bod, rhaid ei ddefnyddio, wrth gwrs. 'Tydi 'r term hwn ddim yng Ngeiriadur yr Academi. Siswrn 22:34, 5 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]

Dwi'n cytuno'n llwyr. Dydi "Gweriniaeth Ffrengig" ddim yn iawn yn Gymraeg o gwbl (gellid cael mwy nag un, yn un peth!). Fedra'i ddim cael hyd i enghraifft o "Gweriniaeth Ffrainc" ar hyn o bryd chwaith, ond dyna'r enw naturiol. Anatiomaros 23:23, 5 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]
Cytuno. Gweriniaeth Ffrainc yw'r ffurf naturiol (a dyna'r unig derm, heblaw yn Wicipedia, a gefais wrth chwilio ar Google). Daffy 00:37, 6 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]
française is an adjective; if Gweriniaeth Ffrainc were a correct translation, the official name would be République de France or République de la France. Paul-L 20:31, 7 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]
Dyw geiriau yn iaith ddim yn cyfateb i eiriau iaith arall un am un. Y Gymraeg am the American government yw llywodraeth America, nid y llywodraeth Americanaidd, sy'n cyfeirio at ffordd o weithredu, mewn dull Americanaidd. Yn yr un ffordd, mae Gweriniaeth Ffrainc yn gyfieithiad gwell o République Française na Gweriniaeth Ffrengig. Dyw ansoddeiriau Cymraeg o wledydd ddim yn cyfleu'r un ystyr ag ansoddeiriau tebyg yn Saesneg neu yn Ffrangeg. Mae'r ddadl am Gweriniaeth Iwerddon yn hytrach na Gweriniaeth Wyddelig am the Republic of Ireland yn gwneud hyn yn glirach. Daffy 21:09, 7 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]