Sgwrs:Ffiseg

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Newid llun[golygu cod]

Am fy mod i wedi newid y llun -- gwnes i hyn am ddau reswm:

  1. mae'r ffaith bod rhywun wedi creu cerfluniaeth mor fawr yn dangos bod yr hafaliad yn enwog!
  2. dwi'n meddwl oedd y llinellau sy wedi'u arlunio gan law yn yr hen lun yn edrych tipyn bach yn anhaclus (sori Rhyshuw1)

Yn gobeithio bod hyn yn OK. Alan 07:29, 24 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Safon yr erthygl[golygu cod]

Does gen i mo'r amser na'r wybodaeth am sut i greu tudalennau Wicipedia da, ond mae safon yr iaith drwy gydol yr erthygl yn bur wael, a rhai ffeithiau yn amwys neu'n anghywir (rhwbio gwefr gyda ffwr - onid "trosglwyddo gwefr drwy rwbio ynysydd â ffwr" ddylai fod?). Yn ogystal, nid yw'r ansoddair "Tsieineaidd" yn cyfri fel enw fel ag a wna yn Saesneg. Gall "Chinese" fod yn enw ac yn ansoddair, ond dim ond ansoddair yw "Tsieineaidd". "Tsineaid" fyddai'r ffurf gywir.