Sgwrs:Dewiniaeth Caos

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Pam defnyddio'r gair benthyg Caos, gan fod y geiriau Cymraeg "anrhefn" a "tryblith" yn bodoli? Symud i Hud Anhrefn? Yn bersonol, mae'n well gen i ddefnyddio'r gair "Caos" am ystyr gwreiddiol y gair Groegaidd Chaos, sy'n debycach i wacter nag anrhefn --Llygad Ebrill 14:47, 5 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]

Yn union. Mae "Caos" fan hyn yn cyfeirio at gysyniad clasurol. Yn Geiriadur-yr-Academi cawn "caotig" fel gair, am hynny newidiais o "Chaos" i "Caos". Dwi hefyd rwan wedi cynnwys y term Saesneg gwreiddiol fel esboniad (gweler: Sgwrs Hud y sêl)Sanddef 10:26, 6 Chwefror 2007 (UTC)Sanddef[ateb]

Sori am y sylw di-angen, caos yw'r gair cywir felly. Wedi meddwl, od mai caos yw'r gair safonol, gan fod yr ynganiad Cymraeg o Chaos yn agos iawn i'r Roeg. Ond dyna ni! --Llygad Ebrill 11:29, 6 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]

Dim o gwbl! Dim sylw di-angen oedd o ond cwestiwn digon teg. Wedi'r cwbwl wrth siarad am bethau fel "Chaos Magic" yn Gymraeg mae'n rhaid inni fathu term nad oedd yn bodoli yn y Gymraeg gynt, does dim canllaw ar gyfer y fath bethauSanddef 01:55, 7 Chwefror 2007 (UTC)Sanddef[ateb]


B (Wedi symud Sgwrs:Dewiniaeth Caos i Sgwrs:Hud Caos trwy ailgyfeiriad.: Gwreiddiol yw "Chaos Magic." 'Hud' yw 'magic' yn Gymraeg. Dewiniaeth yw 'Witchcraft' yn Saesneg, felly nid yw'r term sy'n bodoli'n awr yn cyd-fynd.)

Anghywir. Mae'r gair "magic(k)" yma yn cyfeirio at ddisgyblaeth ac ymarfer, felly dewiniaeth yw'r term cywir, nid "hud". Mae gwahaniaethu rhwng "witchcraft" a "magic" yn Gymraeg yn wastraff amser yn ogystal â bod yn anghywir yn y cyd-destun yma. Sanddef 23:07, 25 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Rydych yn dweud ei fod yn "ymarfer" yn yr achos hwn, felly mae'n actio yn ferf, ydych yn golygu? Oherwydd nad wy'n cytuno â hynny - nid oes gair yn y Gymraeg neu'r Saseneg sydd yn cyfleu "to magic" neu "to witchcraft." Mae dewiniaeth wastad yn derm ansoddeiriol, ac yn wastad yn cyfleu "Witchcraft." Mae dweud "Dewiniaeth Caos" fel dweud "Caos Witchcraft" yn y Saesneg, ac mae hynny'n anghywir. Rydym yn dweud Hud Caos jyst fel rydym yn dweud "Caos Magic" (hud = magic) yn Saesneg. Fe fydd wastad anghywirdeb yn y Gymraeg wrth greu geiriau newydd i gyfleu gwahanol bethau - oddieithr ein bod yn dechrau defnyddio "Majic" yn lle "hud." Xxglennxx 23:38, 25 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Dw'i'm yn gwybod pam ti'n mynd on and on am dewiniaeth=witchcraft. Dydy'r Gymraeg ddim yn gwahanu rhwng witchcraft, magic (as a practice) a wizardry. Fel dw'i eisoes wedi pwyntio allan, "dewiniaeth" ydy'r term cywir pan dan ni'n siarad am ddisgyblaeth neu ymarfer (a discipline or practice). "Dewiniaeth sympathetig" ydy "Sympathetic magic" (GyA), "Dewiniaeth ddu" ydy "Black Magic" (GyA), felly does dim dwywaith amdani: "Dewiniaeth Caos" ydy "Chaos magic". Nid yw'r gair "Hud" yn cyfeirio nac at ddull o weithredu, ymarfer nac ddisgyblaeth. Sanddef 00:14, 26 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Dwi'n mynd ymlaen ac ymlaen oherwydd dyna beth mae'r Cymry yn ei feddwl amdano wrth glywed y gair 'dewiniaeth,' - 'witchcraft' hy. Os oedden nhw'n mynd i gyfieithu "Caos Magic" wedyn bydden nhw'n gwybod mai "hud" yw 'magic' a gludo wrth hynny. Yn bersonol, dwi o blaid cadw'r gair 'hud.' Dywedaf ddim byd mwy amdani. Xxglennxx 00:37, 26 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Wel, fel un o'r "Cymry" yma, dw'i'n anghytuno'n llwyr gyda dy ddadansoddiad. Nid yw'r gair "witchcraft" yn bodoli yn Gymraeg, na "magic" ychwaith. Geiriau Seasneg ydan nhw! Rydym ni'n defnyddio'r gair "dewiniaeth" yn lle "witchcraft" oherwydd ymarfer ydy, sef dull o weithredu a dyna'n union pam mae "hud Caos" yn hollol hollol anghywir. Sanddef 01:07, 26 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Cytuno gyda chadw'r erthygl dan y teitl Dewiniaeth Caos. Hyd yn oed os mae'r erthygl yn gyfieithiad o un saesneg ni ddylid gwneud hynny gair-am-air, ond fesul cymal a brawddeg. Does dim cyfatebiaeth union rhwng geiriau Cymraeg a geiriau Saesneg. Yn ôl Cysgeir gall ddewiniaeth olygu divination, necromancy, sorcery, witchcraft neu wizardry, a gall hud olygu decoy, incantation, lure, magic, spell neu wizardry; a gall magic olygu dewinbadaeth, dewiniaeth, neu hud (wrth gwrs mae mwy fyth o ystyron nad ydynt yn y geiriadur). Felly mater o dewis yr ystyr cywir sydd yma. Mae'r gair hud fel arfer yn cael ei ddefnyddio am un weithred(e.e. spells ydi hudion), neu fel ansoddair (y ffon hud, y carped hudol), tra bod geiriau -aeth yn cyfeirio at ddisgyblaeth neu ffordd o wneud pethau (gwyddoniaeth, athroniaeth a.y.b.). Dewiniaeth amdani felly. --Llygad Ebrill 09:43, 26 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]