Sgwrs:Cynghanedd groes

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Dwi wedi trio ehangu ar yr erthygl, ond mae'n hynod anodd gwybod pa mor bell i fynd. Ar hyn o bryd, mae'r erthygl yn cymryd yn ganiataol fod gan y darllenydd wybodaeth am acen, gorffwysfa, cynghanedd gytbwys a disgynedig ac ati; sydd yn dybiadau afresymol wrth reswm gan nad oes erthyglau arnynt yma. Bydd pwynt yn cyrraedd pan fydd rhaid aralleirio gwaith John Morris Jones i gyd er mwyn esbonio'n gywir, oherwydd wrth dyllu'n ddyfnach i mewn i'r pwnc, rhaid esbonio cant a mil o bethau eraill. Efallai mai'r peth gorau i'w wneud fyddai rhoi cefndir syml a chyfeirio darllenwyr pellach at "Anghenion y Gynghanedd" neu gyffelyb werslyfr. Eisingrug 22:36, 14 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

"Aralleirio gwaith John Morris Jones i gyd" - dyna uchelgais! Dwi'n meddwl fod cael digon o enghreifftiau o gynghanedd, gyda esboniadau, yn syniad da achos mae'r termau mor dechnegol i'r darllenydd cyffredin. Wyt ti wedi sbiad yn Categori:Cynghanedd i weld be sy gennym ni yn barod? Mae gennym ni'r rhestr Termau llenyddol hefyd (byddai 'Termau llenyddiaeth' yn enw gwell ond bydd rhaid i mi dreulio awr yn newid y categori hefyd os newidier yr enw rywbryd). Anatiomaros 23:23, 14 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Paid â phoeni, does gen i ddim bwriad i aralleirio "Cerdd Dafod"! Gydag erthyglau fel hyn, rhaid bod unai'n arwynebol dros ben neu mynd yr "whole hog" fel petai - nid yw unrhywbeth yn y canol yn gweithio! Go brin y byddai unrhyw berson sydd â gwir ddiddordeb mewn cerdd dafod yn astudio Wicipedia beth bynnag gyda chymaint o werslyfrau ar gael.
Mi dria i weithio ar erthygl fwy crwn gydag ychydig o enghreifftiau ac egwyddorion sylfaenol y gynghanedd, gan adael y gweddill i Alan Llwyd a JMJ... Eisingrug 00:23, 15 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]