Sgwrs:CBAC

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Newid gan olygydd gwe CBAC[golygu cod]

Helo 'na. Fi yw golygydd gwe CBAC - ac mae gen i ddiddordeb ehangu ar yr adran sy'n disgrifio'r corff ar hyn o bryd.

Yr hyn rwy'n ei gynnig yw defnyddio'r cynnwys sydd ar dudalen "Amdanom ni" safle CBAC, ond wedi tynnu'r ieithwedd farchnata, gan adael y cynnwys ffeithiol sy'n disgrifio beth ydyn ni'n ei wneud, ymhle, ac am ba bethau ydyn ni'n swyddogol gyfrifol amdanyn nhw.

Fe wna i adael hwn yma am rhai dyddiau cyn cyhwanegu unrhyw gynnwys - jyst rhag ofn fod problem gyda rhywun gyda'r sefyllfa.

Hwyl am y tro!

Gwydion 13:37, 27 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Mae'n braf clywed hynny, Gwydion: croeso i'r Wicipedia! Dwi ddim yn gweld unrhyw broblem gyda throsglwyddo'r testun o'r wefan cyn belled a'i fod yn ffeithiol a di-duedd. Ond mae rheolau wicipedia ynglŷn â hawlfraint yn llym. Tybed baset ti'n medru anfon e-bost - byddai un gair yn ddigon! - gyda chyfeiriad CBAC arno i brofi dy fod yn gweithio i CBAC? Jyst mater o ffurfioldeb, rhag ofn bod rhywun yn y dyfodol yn meddwl fod hyn yn torri ein rheolau hawlfraint. Os ydy hynny'n iawn gen ti mi sgwennaf at dy gyfeiriad e-bost ar wefan CBAC (iti gael fy nghyfeiriad i). Anatiomaros 14:37, 27 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
A fyddai e-bost at gwybodaeth@.... yn cyrraedd dy ddesg? Anatiomaros 14:42, 27 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Helo - a diolch am groeso mor hynod o effeithiol! bydd [cyfeiriad ebost byddai'n well gen i ei ddileu yn awr]... yn cyrraedd - os yw hynny'n ddigon i ti? wedi gofyn hanes y cyfeiriad yna - a bydd, fe fyddai'n cyrraedd yma yn y pen draw - ond croeso (ac efallai gwell) defnyddio'r cyfeiriad uniongyrchol. Gwydion 14:54, 27 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Diolch am yr ymateb prydlon, Gwydion! Wna'i anfon e-bost sydyn rwan. Fel dwi'n deud, mond mater o barchu'r rheolau ydy o. Os nodaf hynny yma bydd dim lle i ddadlau (dim fod hynny'n debyg o ddigwydd ar ein wici ni - mater arall ydy'r wici Saesneg gor-fiwrocrataidd!). Anatiomaros 15:19, 27 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
ON I ychwanegu dy lofnod does mond angen rhoi pedwar tilde, fel hyn - ~~~~ - ar ddiwedd dy neges.

Unrhyw lwc ar anfon yr ebost? Dim byd wedi cyrraedd fan hyn eto ;) Cwestiwn ychydig yn ddyfnach o bosib: a oes modd newid teitl y dudalen? Nid Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru yw enw'r corff erbyn hyn, ond CBAC yn swyddogol. O safle CBAC: "Sefydlwyd CBAC, neu Cyd-bwyllgor Addysg Cymru, fel y'i galwyd tan yn diweddar". Gwydion 15:14, 28 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Rhyfedd. Anfonais e-bost ddoe, tua hanner wedi tri. Ydy'r cyfeiriad yn iawn ([newid gan Gwydion i ddileu]@, a derbyn mai cbac.co.uk yw'r gweddill)? Dim problem efo newid y teitl, wna'i symud y dudalen i CBAC rwan hyn. Anatiomaros 16:05, 28 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Ma'r rheolau spam yma ychydig yn haearnaidd - fe wna i ofyn i weld os oes rhywbeth yn y 50,000 o ebyst sy'n cynnig gwasanaethau lliwgar i fi! Gwydion 08:18, 29 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Hoffwn bwysleisio unwaith eto mai mater o ffurfioldeb yn unig yw hyn. Mae croeso i ti ddechrau ehangu'r erthygl yn y cyfamser, dwi ddim yn meddwl bydd neb yn cwyno - i'r gwrthwyneb, mae hyn yn ddatblygiad i'w groesawu - ond yn ôl ein rheolau mae angen cadarnhad ym mhob achos fel hyn (rhag ofn i'r wicipedia wynebu cyhuddiadau o dorri cyfraith hawlfraint ayyb). Dwi ddim isio rhoi fy nghyfeiriad e-bost yma achos gall unrhyw un ei weld, dyna'r anhawster, wrth gwrs. Cofion, Anatiomaros 17:14, 29 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Croeso Gwydion... a CBAC; braf eich gweld. Gobeithio y cawn gydweithio i roi llwyfan pellach i chi, mae miloedd o blant drwy Gymry'n ein defnyddio'n ddyddiol, ac rwy'n credu y gallem fod yn llwyfan ychwanegol i'r holl waith rydych wedi bod yn ei wneud dros y blynyddoedd. Llywelyn2000 19:07, 29 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Am y record, gan fod y ddwy neges e-bost anfonais at gyfeiriad Gwydion ar CBAC wedi methu cyrraedd am ryw reswm neu'i gilydd (cf. uchod), dwi newydd anfon y neges ganlynol at y cyfeiriad am ymholiadau ar wefan CBAC (gwybodaeth@...):
Tybed a fedrech chwi fod o gymorth, os gwelwch yn dda? Dwi'n weinyddwr a biwrocrat ar y Wicipedia Cymraeg (http://cy.wikipedia.org/wiki/Hafan). Creodd eich gwefeistr Gwydion Gruffudd gyfrif ar y wicipedia a mynegodd ei fwriad o ehangu ein herthygl ar CBAC trwy addasu deunydd sydd ar eich gwefan. Am fod gan y Wicipedia reolau tynn am hawlfraint gofynnais iddo anfon e-bost ataf i brofi, am y record, ei fod yn gweithio i CBAC (cewch ein trafodaeth yma: http://cy.wikipedia.org/wiki/Sgwrs:CBAC). Er imi anfon dau e-bost at ei gyfeiriad e-bost CBAC (***) mae'n ymddangos nad ydynt wedi cyrraedd, yn ol y nodyn a adawodd ar y Wicipedia rhai dyddiau'n ol.
Rydym yn awyddus iawn i ehangu'r Wicipedia Cymraeg, sy'n cynnwys dros 22,500 o erthyglau ar hyn o bryd, ac rydym yn croesawu'r cyfraniad yma gan CBAC. Gobeithiwn fod hyn yn gam cyntaf at ddatblygu perthynas rhwng y Wicipedia - fel un o brif gyfryngau'r Gymraeg ar y we sydd hefyd a'r botensial i ddod yn adnodd addysg Gymraeg bwysig - a CBAC. Fodd bynnag, os na fedrem ni gysyltu a Gwydion i gymryd y cam cyntaf hwnnw mae'r cwch yn farw yn y dwr, fel petai.
A oes modd i chwi naill ai anfon yr e-bost yma ymlaen at Gwydion neu gysylltu ag ef a rhoi iddo fy nghyfeiriad e-bost? Nodyn byr ganddo yw'r cwbl sydd angen - y peth pwysig ydy cael e-bost sy'n cael ei anfon o CBAC.
Yr eiddoch yn gywir, ayyb
Gobeithio bydd y neges yn cyrraedd y tro yma. Anatiomaros 14:59, 4 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Does dim rhaid oedi tan hynny. Yn dilyn galwad ffon gen i i un o swyddogion CBAC eiliadau yn ol, gallaf ddweud fod ebost Gwydion yn ddilys. Cafodd ei benodi tua deufis yn ol. Felly ... ymlaen! Llywelyn2000 17:58, 4 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Gwych, Llywelyn! Os wyt ti'n darllen hyn, Gwydion, mae'r pyrth yn llydan agored rwan... Anatiomaros 18:07, 4 Mai 2009 (UTC)[ateb]

Erthygl ddefnyddiol iawn ydy hon.[golygu cod]

Mae pethau i'w gweld yn symud yn rhyfeddol. Gwych! Llywelyn2000 22:04, 5 Mai 2009 (UTC)[ateb]

Bydd ychydig o oedi o'n rhan i am gyfnod o leia' - wrth i fi gael mwy o bethau strwythurol yn barod, mae'n bosib bydd mwy gyda fi i'w ychwanegu yma. Fe fydda i'n ceisio cael mwy am y partneriaid i fyny serch hynny, gan gyfrannu mwy at esbonio'r system gymwysterau o bosib. Cewn ni weld. Rhaid diolch yn fawr am y croeso - mae 'di bod yn brofiad hyfryd hyd yn hyn. Gwydion 15:06, 6 Mai 2009 (UTC)[ateb]

Newidiadau preifatrwydd.[golygu cod]

Er gwybodaeth, rwy' wedi tynnu fy nghyfeiriad ebost o'r dudalen yma. Dwy' ddim yn teimlo fod angen iddo aros yma wedi i ni ddatrys mater y cysylltiad a CBAC. Gwydion 12:19, 28 Mai 2009 (UTC)[ateb]

Call iawn. Diolch am y gwaith da. Edrychaf ymlaen at weld rhai o'r gweithgareddau / adrannau nawr yn cael eu creu. Gweidda os y medra i gyfieithu neu gynorthwyo mewn unrhyw fodd, cofia. Llywelyn2000 13:32, 28 Mai 2009 (UTC)[ateb]