Sgwrs:CIA

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Dwi'n meddwl y dylem symud hyn i CIA. Dyna'r enw mwyaf adnabyddus. Am y cyfieithiad 'Gwasanaeth Cyfrin Canolog', ar ôl chwilio Google cefais 103 enghraifft ohono. Wrth gwrs roeddynt i gyd yn cyfeirio at yr erthygl hon, yn uniongyrchol neu fel drychau. Anatiomaros 19:03, 4 Hydref 2007 (UTC)[ateb]

(1) Cytuno y dylid symud yr erthygl i CIA.
(2) Dwi'n awgrymu y byddai Asiantaeth Gwybodaeth Ganolog yn well cyfieithiad (ym mrawddeg gynta'r erthygl) na Gwasanaeth Cyfrin Canolog (sy'n ddisgrifiad yn hytrach na chyfieithiad). Gweler y BBC fan hyn. Daffy 19:40, 4 Hydref 2007 (UTC)[ateb]
Diolch am gael hyd i hynny. Wna'i newid yr enw yn yr erthygl i "Asiantaeth Gwybodaeth Ganolog America" (angen dweud pa wlad hefyd, wedi'r cyfan!) a symud yr erthygl felly (a nodi'r enghraifft o'r enw gan y BBC a'r ffaith eu bod yn defnyddio "CIA" wedyn trwy gydol yr erthygl newyddion). Anatiomaros 19:53, 4 Hydref 2007 (UTC)[ateb]