Sgwrs:Bronn Wenneli

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Mae'r erthygl 'ma yn defnyddio'r enw Cernyweg fel y prif deidl, a'r enw Saesneg fel ail enw - ond pan geisiodd rhywun yn ddiweddar i wneud yr un peth gyda'r erthygl am Bodmin, fe gafodd y defnyddiwr ei feirniadu am "newidiadau dadleuol heb ffynonellau" a'i flocio oddi wrth y system.

Dwi ddim yn gweld rheswm da am y gwahaniaeth. Yn fy marn i, os does dim enw Cymraeg sy'n cael ei adnabod, rhaid defnyddio'r enw swyddogol neu enwocaf. Yr enw Saesneg sy'n ymddangos yn enwocaf yn yr achos 'ma - mae e'n cael ei ddefnyddio ar fapiau, er enghraifft. (Mae "brown willy" yn ymddangos yn amlach ar Google hefyd, ond gallai hyn fod am resymau eraill!)

Sori am fy mod yn boen yn y tin yn tynnu sylw at bob enghraifft o anghysondeb - wi'n sylwyddoli ei bod hi'n anodd i gadw popeth 100% yn gyson tra i'r gwyddoniadur gael ei sgwennu gan griw o wirfoddolwyr. Ond wi'n meddwl bod angen rheolau cyffredinol am yr enw i ddefnyddio'n gyntaf pan does dim enw Cymraeg ac mae rhaid dewis rhwng ieithoedd eraill, ee. Bilbao/Bilbo, Helsingfors/Helsinki, Mont Blanc/Monte Bianco, Auckland/Tāmaki-makau-rau, Limerick/Luimneach, Godthåb/Nuuk, ....

Gwingwyn 07:40, 20 Medi 2009 (UTC)[ateb]