Neidio i'r cynnwys

Sgwrs:Bro-Gerne

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Does gennyf ddim wrthwynebiad i ffurfiau Llydaweg ar enwau lleoedd yn Llydaw yn cael eu defnyddio yn lle'r fersiynau Ffrangeg, ar y cyfan, ond mae'r fersiynau Ffrangeg hynny yn debyg o fod yn llawer mwy cyfarwydd na'r fersiynau Llydaweg. Doedd dim ail-gyfeirio o'r enw Ffrangeg Cornouaille i fan 'ma, er enghraifft, ac mewn canlyniad roedd 'na bedair dolen goch yn bod am Cornouaille a neb yn gwybod am fodolaeth erthygl am y lle heb chwilio yn y categori 'Llydaw' a meddwl "Ah, Bro-Gerne - Cornouaille yn Llydaweg 'di hynny, tybed?". Anatiomaros 21:46, 13 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]