Sgwrs:Breuddwyd y Siambr Goch

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Yr enw[golygu cod]

Dwi'n gwybod bod gennym bolisi o ryw fath i beidio defnyddio cyfieithiadau o enwau llyfrau/ffilmiau os nad ydynt ar gael yn Gymraeg, ond dwi'n pledio drosto yn yr achos yma ac ambell un tebyg. Clasur adnabyddus yw'r nofel, ac o edrych ar y dolenni rhyngwici gwelaf fod pob un bron yn defnyddio cyfieithiad. Anodd gennyf gredu fod y nofel faith hon wedi'i chyfieithu i gynifer o ieithoedd. Y broblem gyda'r teitl gwreiddiol - Hóng lóu mèng - ydy ei fod yn cael ei sillafu mewn sawl ffordd hefyd. Dwi'n dadlau felly fod modd cyfiawnhau defnyddio ambell gyfieithiad "answyddogol" mewn achosion fel hyn. Yn yr un modd dwi'n meddwl bod Chwedl Genji yn dderbyniol am y clasur mawr (gwirioneddol anferth!) Siapaneg Genji-no-monogatari ("The Tale of Genji), Rhamant y Tair Teyrnas (clasur Tsieinëg: "Romance/Tale of the Three Kingdoms) ayyb. Oes barn am hyn? Anatiomaros 17:37, 19 Awst 2010 (UTC)[ateb]

Mewn achosion fel hyn, rwy'n meddwl mai cyfieithiad o'r enw yw'r gorau; 紅樓夢 fyddai'r teitl gwreiddiol. Porius1 18:25, 19 Awst 2010 (UTC)[ateb]