Sgwrs:Black Elk

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Dydwi ddim wedi mentro cyfieithu'r enw 'Black Elk'. Yn un peth, dyna'r enw a ddefnyddiwyd gan y dyn ei hun. Mae ei enw brodorol, Hehaka Sapa, yn swnio'n hyfryd, ond does neb yn ei ddefnyddio. Mae hyn yn codi cwestiwn mawr ynglŷn ag enwau pobl a llwythau brodorol Gogledd America yn gyffredinol. Mae'n debyg fod pawb wedi clwyed am Crazy Horse a Sitting Bull, er enghraifft, ond a fyddai'n iawn i gyfieithu'r enwau hynny i Gymraeg? "Ceffyl Gwallgof"?! Mae "Tarw ar ei Eistedd" yn swnio'n well, ond pwy sy'n ei ddefnyddio? Neb, mae'n debyg. Unwaith eto does gennym ni ddim canllawiau fel cyfeirlyfrau a llyfrau hanes safonol ar y pwnc. Beth i'w wneud? Hoffwn glywed os oes gan rywun syniadau. Anatiomaros 20:17, 18 Medi 2007 (UTC)[ateb]

Dolen wallus[golygu cod]

Gwirwyd y ddolen sawl tro ac fe'i cafwyd yn wallus. Trwsiwch neu ddilewch hi os gwelwch yn dda.

--Hazard-Bot (sgwrs) 03:03, 2 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]

Dolen wallus 2[golygu cod]

Gwirwyd y ddolen sawl tro ac fe'i cafwyd yn wallus. Trwsiwch neu ddilewch hi os gwelwch yn dda.

--Hazard-Bot (sgwrs) 03:03, 2 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]