Seicig

Oddi ar Wicipedia
Ffenest siop person dweud ffortiwn ym Moston

Person sydd yn honni fod ganddynt ddarweliad allsynhwryol sy'n eu galluogi i ganfod gwybodaeth sydd tu hwnt i'r synhwyrau cyffresin ydy seicig. Yn aml dywedir y gallant fanipiwleiddio gwrthrychau gan ddefnyddio grym eu meddwl yn unig mewn proses a elwir seicocinesis. Defnyddir y term "seicig" hefyd i ddisgrifio medrau o'r math hwn. Mae'n bosib fod seicigau'n berfformwyr theatraidd mewn gwirionedd, yn debyg i gonsurwyr sy'n defnyddio technegau megis hutgastiau, darllen oer a darllen poeth er mwyn rhoi'r argraff o sgiliau goruwchnaturiol. Ymddangosa seicigau'n rheolaidd mewn ffuglen ffantasi, fel a geir yn nofel Stephen King, The Dead Zone.

Ceir diwydiant a rhwydwaith eang o seicigau'n bodoli, lle mae seicigau'n cynnig cyngor i gwsmeriaid.[1] Mae rhai o'r seicigau enwocaf yn cynnwys Edgar Cayce, Ingo Swann, Peter Hurkos, Jose Ortiz El Samaritano,[2] Miss Cleo,[3] John Edward, a Sylvia Browne.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Matthew Nisbet. Psychic telephone networks profit on yearning, gullibilityURL
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-02. Cyrchwyd 2014-09-28.
  3.  FTC Charges "Miss Cleo" with Deceptive Advertising, Billing and Collection Practices.
Eginyn erthygl sydd uchod am y paranormal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.