Segontiaci

Oddi ar Wicipedia

Llwyth Celtaidd ym Mhrydain oedd y Segontiaci. Cyfeirir atynt gan Iŵl Cesar wrth roi hanes ei ail ymgyrch ym Mhrydain yn 55 CC yn ei Commentarii de Bello Gallico. Wedi iddo ennill buddugoliaeth yn erbyn Cassivellaunus yn nyffryn Afon Tafwys, ildiodd nifer o lwythau iddo, yn cynnwys y Segontiaci..[1]

Mae rhai ysgolheigion wedi awgrymu fod cysylltiad rhwng y Segontiaci ag enw caer Rufeinig Segontium yng Ngwynedd. Fodd bynnag, mae'r ffaith eu bod wedi dod i gysylltiad a byddin Cesar mor fuan ar ôl iddo lanio yn awgrymu mai llwyth o dde-ddwyrain Lloegr oeddynt.

Nodiadau[golygu | golygu cod]

  1. Commentarii de Bello Gallico 5.21