Sandra Mason

Oddi ar Wicipedia
Sandra Mason
GanwydSandra Prunella Mason Edit this on Wikidata
17 Ionawr 1949 Edit this on Wikidata
Saint Philip Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Barbados Barbados
Alma mater
  • University of Windsor Faculty of Law
  • Prifysgol India'r Gorllewin
  • Hugh Wooding Law School
  • University of the West Indies - Cave Hill Campus Edit this on Wikidata
Galwedigaethbarnwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddGovernor-General of Barbados, President of Barbados Edit this on Wikidata
Gwobr/auUwch Groes Urdd y Saint Mihangel a Sior, i Ferched Edit this on Wikidata

Arlywydd cyntaf a phresennol Barbados yw Sandra Prunella Mason FB GCMG DA QC (ganwyd 17 Ionawr 1949). Cafodd ei hethol gan Senedd Barbados ar 20 Hydref 2021 i ddod yn arlywydd cyntaf y wlad, a daeth yn ei swydd ar 30 Tachwedd 2021, pan beidiodd Barbados â bod yn frenhiniaeth gyfansoddiadol a daeth yn weriniaeth.

Gwleidydd, cyfreithiwr a diplomydd yw Mason sydd wedi gwasanaethu fel barnwr Uchel Lys yn Sant Lwsia a barnwr Llys Apêl yn Barbados. Hi oedd y fenyw gyntaf a dderbyniwyd i'r Bar yn Barbados. Gwasanaethodd fel cadeirydd comisiwn CARICOM i werthuso integreiddio rhanbarthol, hi oedd yr ynad cyntaf a benodwyd yn llysgennad o Barbados, a hi oedd y fenyw gyntaf i wasanaethu ar Oruchaf Lys y wlad.

Bywyd ac addysg gynnar[golygu | golygu cod]

Cafodd Mason ei geni[1] yn Saint Philip, Barbados.[2] Ar ôl astudio yn Ysgol Gynradd St Catherine, mynychodd ysgol uwchradd yng Ngholeg y Frenhines, [3] yna dechreuodd ddysgu yn Ysgol Uwchradd y Dywysoges Margaret ym 1968.[4] Bu’n gweithio ym Manc Barclays fel clerc. Cofrestrodd Mason ym Mhrifysgol India'r Gorllewin yn Cave Hill, lle enillodd Radd Baglor Cyfreithiau.[1] Mason oedd un o raddedigion cyntaf Cyfadran y Gyfraith o PCA, Cave Hill.

Ym 1978, dechreuodd Mason weithio fel Ynad y Llys Ieuenctid a Theuluoedd. Ym 1998, cwblhaodd cwrs RIPA'r Sefydliad Brenhinol Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn Llundain ar Weinyddiaeth Farnwrol.[1] Gwasanaethodd ar Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn o'i gychwyn ym 1991 hyd 1999, ac roedd yn is-gadeirydd rhwng 1993 a 1995 ac yn gadeirydd rhwng 1997 a 1999.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 "Sandra Prunella Mason". St. Michael, Barbados: Caribbean Elections. 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-07-26. Cyrchwyd 1 December 2015.
  2. "Justice Sandra Mason records another first". Barbados Advocate (yn Saesneg). St. Michael, Barbados. 9 Awst 2013. Cyrchwyd 1 December 2015.
  3. "Governor General". Official Website of the Barbados Government. Cyrchwyd 25 Hydref 2021.
  4. "Caribbean Elections Biography | Sandra Prunella Mason". caribbeanelections.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-10-21. Cyrchwyd 25 October 2021.