Rómulo Gallegos

Oddi ar Wicipedia
Rómulo Gallegos
Ganwyd2 Awst 1884 Edit this on Wikidata
Caracas Edit this on Wikidata
Bu farw7 Ebrill 1969, 5 Ebrill 1969 Edit this on Wikidata
Caracas Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFeneswela Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Ganolog Feneswela Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, gwleidydd, nofelydd, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Swyddsenator for life, member of the Chamber of Deputies of Venezuela, President of Venezuela Edit this on Wikidata
Arddullnofel Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolDemocratic Action Edit this on Wikidata
Gwobr/auY Wobr Genedlaethol am Lenyddiaeth, Honorary Doctorate from the National Autonomous University of Mexico Edit this on Wikidata
llofnod

Nofelydd Sbaeneg a gwleidydd o Feneswela oedd Rómulo Gallegos Freire (2 Awst 18845 Ebrill 1969) sy'n nodedig am ei nofel Doña Bárbara (1929) ac am ei gyfnod yn Arlywydd Feneswela yn 1948.

Ganwyd Gallegos yn Caracas. Yn 1909 sefydlodd gylchgrawn o'r enw La Alborada. Gweithiodd yn athro ysgol uwchradd yn y 1920au.[1]

Enillodd gymeradwyaeth ryngwladol yn sgil cyhoeddi Doña Bárbara, a ystyrir yn glasur yn llên America Ladin. Mae ei weithiau yn portreadu cymdeithas a diwylliant gwerin yng nglaswelltiroedd gwastad y wlad, a'r gwrthdaro rhwng anwaredd a gwareiddiad. Ymhlith ei nofelau eraill mae Cantaclaro (1934), Canaima (1935), Pobre negro (1937), El forastero (1942), Sobre la misma tierra (1943), La rebelión, y otros cuentos (1947), a La brizna de paja en el viento (1952).

Aeth Gallegos i Sbaen yn alltud o lywodraeth yr Arlywydd Juan Vicente Gómez yn y cyfnod 1931–35. Dychwelodd i Feneswela ac yn 1936 cychwynnodd Gallegos ar ei yrfa wleidyddol. Gwasanaethodd yn Gyngreswr, yn Faer Caracas, ac yn weinidog addysg cyn iddo gael ei ethol yn arlywydd y wlad yn 1947. Dechreuodd ei arlywyddiaeth yn Chwefror 1948, a fe'i disodlwyd wedi naw mis mewn coup milwrol, a chafodd ei alltudio i Fecsico. Dychwelodd i Feneswela yn 1958, a fe'i etholwyd yn seneddwr am oes. Bu farw yn Caracas yn 84 oed.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Winthrop R. Wright, "Gallegos, Rómulo (1884–1969)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture (Gale, 2008). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 30 Awst 2019.
  2. (Saesneg) Rómulo Gallegos. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Awst 2019.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Rafael Fauquie Bescos, Rómulo Gallegos: La realidad, la ficción, el símbolo (1985).
  • Harrison Howard, Rómulo Gallegos y la revolución burguesa de Venezuela (1976).
  • Mónica Marinone de Borrás, Escribir novelas, fundar naciones: Rómulo Gallegos y la experiencia venezolana (Mérida: Centro de Letras Hispanoamericanas, Facultad de Humanidades, 1999).
  • Guillermo Morón, Homenaje a Rómulo Gallegos (1984).
  • Hugo Rodríguez-Alcala (gol.), Nine Essays on Rómulo Gallegos (1979).
  • José Vicente Abreu, Rómulo Gallegos: Ideas educativas en La Alborada (1978).