Rhyfedd y'n Gwnaed
| Enghraifft o: | gwaith llenyddol |
|---|---|
| Awdur | John Gwilym Jones |
| Cyhoeddwr | Gwasg Gee |
| Gwlad | Cymru |
| Iaith | Cymraeg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1 Ionawr 1976 |
| Pwnc | Dramâu Cymraeg |
| Argaeledd | yn cael ei ystyried i'w adargraffu |
| ISBN | 9780707401331 |
| Tudalennau | 72 |
| Dynodwyr | |
Tair drama fer gan John Gwilym Jones yw Rhyfedd y'n Gwnaed. Yn ôl yr actor a'r cyfarwyddwr Wynford Ellis Owen, roedd y tair drama yn ffurfio Drama Gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1971.[1] Dewiswyd Cwmni Theatr Cymru i gyd-weithio â Choleg Prifysgol Cymru Bangor i gyflwyno'r dramâu gydag Wynford Ellis Owen yn cyfarwyddo.
Disgrifiad byr
[golygu | golygu cod]Y tair drama yw: Tri Chyfaill, Dwy Ystafell, ac Un Briodas.
Digwydd y ddrama Tri Chyfaill mewn ystafell foethus mewn gwesty, wrth i'r tri cyfaill gwrywaidd Dan, Em a Twm geisio mwynhau gwyliau golffio.
Digwydd y ddrama Dwy Ystafell mewn dwy ystafell oddi mewn i neuadd myfyrwyr mewn coleg. Ystafell Meic ac ystafell Lis.
Drama rhwng gŵr a gwraig yn eu cartref yw Un Briodas.
Gwasg Gee a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 1976. Yn 2013 roedd y gyfrol yn cael ei ystyried i'w adargraffu.[2]
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]
- Tri Chyfaill
- Dan - 35 oed a thrwsiadus
- Twm - 35 oed
- Em - 35 oed
- Siân - derbynnydd y gwesty
- Dwy Ystafell
- Huw
- Meic
- Nel
- Lis
- Un Briodas
- Meg
- Dic
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]Llwyfannwyd y dramâu'n wreiddiol gan Gwmni Theatr Cymru mewn cyd-weithrediad â Choleg Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor ym 1971.
- Tri Chyfaill
- Dan - Dylan Jones
- Twm - Grey Evans
- Em - Trefor Selway
- Siân - Marged Esli
- Dwy Ystafell
- Un Briodas
- Dic - Frank Lincoln
- Meg - Gaynor Morgan Rees
"Roedd gweithio ar y dramâu yn brofiad cymysg", eglura'r cyfarwyddwr Wynford Ellis Owen yn ei hunangofiant; "Roedd Frank Lincoln a Gaynor Morgan Rees yn wych, ac Un Briodas oedd y drama ora a'r cynhyrchiad gora o'r tair drama fer", eglurodd. Ond gan mai cyd-gynhyrchiad gyda Prifysgol Bangor oedd y bwriad, ychwanegodd Wynford : "bod nifer o actorion proffesiynol yn genfigennus iawn fod myfyrwyr yn cael chwarae'r prif rannau yn y ddrama gomisiwn, a do'dd gen i ddim amheuaeth y byddai'r cynhyrchiad wedi bod yn un gwahanol o ddefnyddio actorion mwy profiadol." [1]
Cyfaddefodd Wynford mai nid hawdd oedd cyd-weithio gyda'r dramodydd John Gwilym Jones 'chwaith, gan fod natur cyfarwyddo y ddau mor wahanol. Ond bychan iawn oedd hynny o gymharu â'r drafferth gafodd o gydag un actor a "gerddodd allan droeon yn ystod yr ymarferiadau".[1]
Erbyn i'r cynhyrchiad fynd ar daith yn dilyn yr Eisteddfod, ac i'r myfyrwyr ddychwelyd i'r coleg, ail-gastiwyd drama'r myfyrwyr gyda Sharon Morgan, Dyfan Roberts, Marged Esli, Dewi Pws a Gwyn Parry.[3]
Yn y golofn Gymraeg o'r The Glamorgan Gazette yn Rhagfyr 1971, cafwyd adolygiad [di-enw] o'r cynhyrchiad, yn dilyn ymweliad y cwmni â Maesteg: "Ar y cyfan siomedig oedd ymateb y gynulleidfa: tipyn o anniddigrwydd am fod cymaint o siarad am ryw, ambell i rêg, a merch yn gwisgo ar y llwyfan. Y perygl yw mai dyma fydd y pethau fydd yn aros yn y côf. [...] Efallai nad yw y dramâu hyn mor wreiddiol eu deunydd â'i ddramâu eraill ond y maent yn fywiog, yn ddoniol, yn gomedi ac yn drasiedi, ond, yn fwy na'r cwbwl, yn theatr."[4]
Oriel cynhyrchiad Eisteddfod 1971
[golygu | golygu cod]- Taith Cwmni Theatr Cymru o Rhyfedd y'n Gwnaed ym 1971
-
Alun Ffred ac unai Dewi Jones neu Davies yn y ddrama Dwy Ystafell - Cynyrchiadau Cwmni Theatr Cymru ar y cyd â Prifysgol Cymru, Bangor o tair drama fer John Gwilym Jones, Rhyfedd y'n Gwnaed yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1971.
-
Frank Lincoln a Gaynor Morgan Rees yn y ddrama Un Briodas -Cynyrchiadau Cwmni Theatr Cymru ar y cyd â Prifysgol Cymru, Bangor o tair drama fer John Gwilym Jones, Rhyfedd y'n Gwnaed yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1971.
-
Myfyrwyr Coleg yn Cynyrchiadau Cwmni Theatr Cymru ar y cyd â Prifysgol Cymru, Bangor o tair drama fer John Gwilym Jones, Rhyfedd y'n Gwnaed yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1971.
-
Frank Lincoln a Gaynor Morgan Rees yn y ddrama Un Briodas Cynyrchiadau Cwmni Theatr Cymru ar y cyd â Prifysgol Cymru, Bangor o tair drama fer John Gwilym Jones, Rhyfedd y'n Gwnaed yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1971.
-
Y cast yn ymlacio - Cynyrchiadau Cwmni Theatr Cymru ar y cyd â Prifysgol Cymru, Bangor o tair drama fer John Gwilym Jones, Rhyfedd y'n Gwnaed yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1971.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Owen, Wynford Ellis (2004). Raslas Bach A Mawr!. Gomer.
- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 Morgan, Sharon (2011). Hanes Rhyw Gymraes. Y Lolfa.
- ↑ "Dec 10, 1971, page 9 - The Glamorgan Gazette at Newspapers.com". Newspapers.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-10.