Rhestr penodau Alys

Oddi ar Wicipedia

Cyfres ddrama deledu Cymraeg oedd Alys a ddarlledwyd ar S4C yn 2011 a 2012. Cychwynnodd y gyfres gyntaf ar 23 Ionawr 2011 ac cynnwys wyth pennod. Cafodd y gyfres nifer da o wylwyr ar S4C a cafodd ail gyfres o wyth pennod ei gynhyrchu yn gynnar yn 2012 a cychwynnodd ddarlledu ar 11 Tachwedd 2012. Hyd yn hyn, nid yw'r gyfres wedi ei adnewyddu am drydydd tymor.

Dyma rhestr o benodau o Alys:

Gorolwg cyfres[golygu | golygu cod]

Cyfres Penodau Darllediad gwreiddiol Cyfartaledd gwylwyr
Pennod gyntaf Pennod olaf
1 8 23 Ionawr 2011 (2011-01-23) 13 Mawrth 2011 (2011-03-13) 54,000
2 8 11 Tachwedd 2012 (2012-11-11) 30 Rhagfyr 2012 (2012-12-30) 36,000

Cyfres 1 (2011)[golygu | golygu cod]

# Teitl Awdur Cyfarwyddwr Darllediad gwreiddiol Gwylwyr
1"Pennod 1"Siwan JonesGareth Bryn23 Ionawr 2011 (2011-01-23)0.61
"goroesiad y cymhwysaf":: Mae Alys a'i mab Daniel yn symud i dref fach yng Ngorllewin Cymru er mwyn dianc o'i gorffennol yng Nghaerdydd a chychwyn bywyd newydd
2"Pennod 2[1]"Siwan JonesGareth Bryn30 Ionawr 2011 (2011-01-30)0.53
"mae cachu nhw'n drewi fel pawb arall": Mae Alys yn dwyn o siop ddillad islaw ei fflat, a mae Daniel yn mynd i ymladd a ei ddiwrnod cyntaf yn yr ysgol. Mae Alys yn dechrau cael hunllefau am ei gorffennol yng Nghaerdydd.
3"Pennod 3[2][3]"Siwan JonesLee Haven-Jones6 Chwefror 2011 (2011-02-06)0.71
"'na beth sy ar goll yn ein cymdeithas ni heddi... pobal sy'n fadlon stico'u penne lan dros y parapet!": Mae Alys yn dwyn llyfrau o'r llyfrgell ac yn cael ei weld gan nai William, Iestyn. Mae Kevin a Shane yn gweld y bwyty Tsieneeg yn wag a gorff heb ben yn y stafell uwchben. Mae Debbie yn dechrau amau Alys a Toms. Mae Alys a Ceri yn mynd allan am y noson tra fod Kevin fod gwylio Daniel, a mae Ceri yn dechrau ymddwyn yn rhyfedd pan mae'n adnabod ei gyrrwr tacsi. Mae Ceri yn hunan-niweidio.
4"Pennod 4"Siwan JonesLee Haven-Jones13 Chwefror 2011 (2011-02-13)0.65
"pwy ma'n meddwl yw hi?": Mae Alys yn sylweddoli fod Ceri yn gwybod am Kevin a Vicky a'u plentyn. Mae Angie a Chris yn trafod bywyd preifat Alys a mae Chris yn wynebu Alys am ei phuteindod. Mae Alys yn dod o hyd i'r gyrrwr tacsi yn edrych o gwmpas y fflatiau. Mae Ceri yn ymosod ar Kevin. Mae Alys yn cael ei dal yn dwyn o westy.
5"Pennod 5[4][5][6]"Siwan JonesLee Haven-Jones20 Chwefror 2011 (2011-02-20)0.49
"pwy sy'n twyllo pwy": Mae Ron yn cynnig swydd i Alys fel glanhawr ond mae Debbie yn rhybuddio Alys i gadw draw. I geisio atal darganfod ei gyfrinach e a Ron, mae Toms yn dweud wrth Kevin a Shane i dorri mewn i dŷ Ron a dwyn ei liniadur. Mae Debbie a Ron yn dychwelyd i weld fod rhywun wedi torri mewn i'r tŷ a mae Debbie yn darganfod ei chi, Toots, yn farw. Mae'n dweud wrth Ron i beidio a'i adrodd i'r heddlu am ei bod yn gwybod beth sydd ar y gliniadur. Mae Alys yn dechrau chwilio am y gyrrwr tacsi am mai fe wnaeth dreisio Ceri. Mae'r gyrrwr tacsi yn dod at fflatiau ac yn ymosod ar Alys.
6"Pennod 6[7][8][9]"Siwan JonesRhys Powys27 Chwefror 2011 (2011-02-27)0.42
"ma' 'na shwd beth â thrais cyfiawn": Mae Alys, William a Ceri yn darganfod y gyrrwr tacsi ac am ddial arno. Maen nhw'n chwilio am y gliniadur oedd wedi ddwyn, a mae Debbie yn dweud wrth Ron ei bod yn gwybod fod lluniau o ferched ifanc arno. Mae Toms yn chwilio'r fflatiau a bygwth Kevin sydd eisiau arian am ddychwelyd y gliniadur iddo. Mae Heulwen yn ymweld a'i chwaer nad yw wedi gweld ers ugain mlynedd a datgelir mae ei chwaer yw mam Alys, ond nid yw Heulwen yn gwybod hyn. Mae William yn cael gwahoddiad i briodas ei ferch. Mae Shane yn cael ei arestio mewn cysylltiad a'r corff ddarganfuwyd yn y bwyty. Mae Alys yn benthyg y gliniadur y fflat Kevin a mae hi a William yn darganfod beth sydd arno. Mae Toms yn ymddangos yn fflat Alys.
7"Pennod 7[10][11][12]"Siwan JonesRhys Powys6 Mawrth 2011 (2011-03-06)0.49
"ma'n rhan o'r natur ddynol ...edrych ar ôl dy hunan gyntaf": Mae'r gliniadur dal ar goll a mae Alys yn mynnu cael arian o Debbie a Ron amdano neu fydd hi'n mynd i'r heddlu. Mae Kevin yn mynnu fod Toms yn rhoi iddo ond mae Alys yn cadw allan o'r peth. Mae Alys angen yr arian am ei fod eisiau symud gyda Daniel i America. Mae William yn mynd i briodas Catrin ei ferch a mae hi a'i gŵr newydd yn falch i'w weld ond mae'n meddwi a gadael yn gynnar. Mae Ron yn talu dau ddyn i fynd i'r fflatiau i geisio cau ceg Alys ond am nad yw hi yna, maen nhw'n ymosod ar William. Mae Alys yn dychwelwyd a cheisio ei achub.
8"Pennod 8[13][14][15]"Siwan JonesRhys Powys13 Mawrth 2011 (2011-03-13)0.42

"...ti sy'n gyfrif am bopeth ti'n neud...": Mae Alys yn mynd i weld William yn yr ysbyty a datgelu iddo mai hi a laddod ei chariad Mike, drwy achosi damwain car. Mae'n dychwelyd i'r ysbyty yn ddiweddarach i weld ei fod wedi mynd a mae'n mynd i'r fflat lle mae Iestyn yn dweud wrthi na ddylai wneud unrhywbeth gyda fe. Mae Debbie yn bwriadu rhoi'r arian i Alys am gael y gliniadur nôl, ond mae Ron yn cael trawiad ar y galon tra'n ceisio ei argyhoeddi i beidio talu. Mae Alys methu dod o hyd i'r gliniadur am fod y cyngor wedi cael gwared o bopeth yn yr iard. Mae Alys yn darganfod mai Heulwen yw ei modryb. Mae Ceri yn penderfynu mynd i angladd y ferch 17 mlwydd oed a dreisiwyd a lofruddiwyd gan y gyrrwr tacsi, ond pan mae'n mynd i'r tŷ teulu'r ferch mae'n gweld ei fod yn wag gyda dim ond y gyrrwr tacsi tu fewn. Mae Toms yn dweud wrth Shane i osod y garej ar dân, ond mae Kevin yn ceisio rhoi stop arno. Mae Daniel yn dweud wrth Alys ei fod wedi cuddio'r gliniadur, a maen nhw yn fflat wag William maen nhw'n clywed ffrwydrad. Maen nhw'n gweld o'r pellter fod y garej ar dân ond beth sy'n digwydd i Kevin a Shane?

Nodiadau: Ymddangosiad olaf Catrin-Mai Huw fel Ceri.

Cyfres 2 (2012)[golygu | golygu cod]

# Teitl Awdur Cyfarwyddwr Darllediad gwreiddiol Gwylwyr
9"Pennod 1"Siwan JonesRhys Powys11 Tachwedd 2012 (2012-11-11)0.42

"...Ma' Duw wedi Marw!":

Nodiadau: Mae cydnabyddiaeth i Catrin-Mai Huw yn y bennod yma, ond dim ond mewn crynodeb o bennod olaf cyfres 1
Ymddangosiad olaf Aneirin Hughes fel Toms
Ymddangosiad cyntaf Richard Harrington fel Simon, Paul Morgans fel Dylan a Carys Eleri fel Llio
10"Pennod 2"Siwan JonesRhys Powys18 Tachwedd 2012 (2012-11-18)0.39

"Ti erio'd wedi camu mas o dy gorff a dishgwl miwn ar dy 'unan?":

Nodiadau: Ymddangosiad cyntaf Gareth Jewell fel Phil
11"Pennod 3"Siwan JonesRhys Powys25 Tachwedd 2012 (2012-11-25)0.39
"...ar yr hewl i uffern!":
12"Pennod 4"Siwan JonesRhys Powys2 Rhagfyr 2012 (2012-12-02)0.37
"Yr unig beth alla'i neud yw neud beth wy'n credu sy'n iawn." :
13"Pennod 5"Siwan JonesDylan Richards9 Rhagfyr 2012 (2012-12-09)0.35
"...ma'r bwystfil rheibus nôl yn dre!" :
14"Pennod 6"Siwan JonesPaul Jones16 Rhagfyr 2012 (2012-12-16)0.27
"...ma' rhaid i'r ad-bryniad ddod o'r tu mewn.":
15"Pennod 7"Siwan JonesPaul Jones23 Rhagfyr 2012 (2012-12-23)0.33
"...wy'n sori ...wy mor sori!" :
16"Pennod 8"Siwan JonesPaul Jones30 Rhagfyr 2012 (2012-12-30)0.37

"...beth ti mynd i weud 'thon nhw?" : Fe allai fod canlyniadau ofnadwy ar gyfer Phil pan mae'n taro Martin ar ei ben ac yn ei adael fel petai'n farw, ond all Bessie berswadio Alys i roi alibi iddo? Yn dilyn y treisiad, mae Angie yn dechrau cofio be wnaeth Simon iddi, y noson cynt yn y swyddfa. Mae Alys yn mynd i gyfarfod Ron yn ei gar ond mae'n cael ei syfrdanu pan mae'n cael ei chloi fewn gyda Ron a Terry yn y cefn yn barod i'w ffilmio; mae William yn ymddangos i achub Alys. Mae William yn datgelu ei fod yn marw o ganser. Mae Debbie a Heulwen yn rhoi gliniadur Ron o'r heddlu, a'i dwyllo i gredu ei fod wedi ei ddwyn unwaith eto. Mae Simon yn cael damwain car erchyll. Mae Dylan yn datgelu cyfrinach i Llio yn dweud nad oes ganddo radd pan mae'n dychwelyd adref mewn panig i weld Llio ar esgor ei babi. Cyn iddyn nhw adael y tŷ, mae Sara yn cloi'r drws gan drapio Llio a Dylan yn yr ystafell wely. Yn y diwedd mae Llio yn rhoi genedigaeth i'r plentyn. Mae'r heddlu yn cyrraedd tŷ Alys i ofyn lle oedd Phil y noson ymosododd ar Martin. Beth fydd hi'n penderfynu.

Ar hyn o bryd, dyma bennod olaf Alys, er ei fod wedi gorffen ar cliffhanger.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Alys - Pennod 2 (S4C)". youtube.com. 30 Ionawr 2011. Cyrchwyd 1 Chwefror 2011.
  2. "Alys - Pennod 3 (S4C)". youtube.com. 31 Ionawr 2011. Cyrchwyd 1 Chwefror 2011.
  3. "Alys - 3 (06/02/2011) - Clip & Script (Welsh)". s4c.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-30. Cyrchwyd 27 Mawrth 2011.
  4. "Episode 5 Slideshow". s4c.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-30. Cyrchwyd 26 Mawrth 2011.
  5. "Alys - 5 (20/02/2011) - Clip & Script (Welsh)". s4c.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-30. Cyrchwyd 27 Mawrth 2011.
  6. "Alys - 5 (20/02/2011) - Clip & Script (English)". s4c.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-30. Cyrchwyd 27 Mawrth 2011.
  7. "Episode 6 Slideshow". s4c.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-30. Cyrchwyd 26 Mawrth 2011.
  8. "Alys - 6 (27/02/2011) - Clip & Script (Welsh)". s4c.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-30. Cyrchwyd 27 Mawrth 2011.
  9. "Alys - 6 (27/02/2011) - Clip & Script (English)". s4c.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-30. Cyrchwyd 27 Mawrth 2011.
  10. "Episode 7 Sioe Sleidiau". s4c.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-30. Cyrchwyd 26 Mawrth 2011.
  11. "Alys - 7 (06/03/2011) - Clip & Script (Welsh)". s4c.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-30. Cyrchwyd 27 Mawrth 2011.
  12. "Alys - 7 (06/03/2011) - Clip & Script (English)". s4c.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-30. Cyrchwyd 27 Mawrth 2011.
  13. "Episode 8 Slideshow". s4c.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-30. Cyrchwyd 26 Mawrth 2011.
  14. "Alys - 8 (13/03/2011) - Clip & Script (Welsh)". s4c.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-30. Cyrchwyd 27 Mawrth 2011.
  15. "Alys - 8 (13/03/2011) - Clip & Script (English)". s4c.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-30. Cyrchwyd 27 Mawrth 2011.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]