Geirfa cleddyfa

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Rhestr Termau Cleddyfa)

Dyma restr termau cleddyfa.


A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I J L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y

A[golygu | golygu cod]

  • Absenoldeb cleddyf (Absence of blade) Pan nad yw'r cleddyfau’n cyffwrdd, naill ai oherwydd nad yw’r llafnau’n ymgysylltu, neu ynteu oherwydd bod cleddyfwr wedi rhwystro ymgais i daro'r llafn
  • Adfer (Recover) Dychwelyd i’r safle ar gard
  • Adnewyddu (Renewal) Symudiad ymosodol a wneir yn syth ar ôl i ymosodiad blaenorol fethu neu gael ei bario. Mae tair ffurf ar adnewyddu: ailwaniad (uniongyrchol), ailddatblygu (anuniongyrchol neu gyfunol) a'r atbreis (a wneir ar ôl dychwelyd i'r safle ar gard)
  • Ail bwriad (Second-intention) Cynllunio i geisio taro’r gwrthwynebwr gyda’r ail weithred o fewn symudiad cleddyfa
  • Ailddatblygu (Redoublement) Adnewyddu symudiad ar ôl cael eich pario trwy ddisodli’r pwynt ar darged i linell wahanol o’i gymharu â’r weithred wreiddiol
  • Ailwaniad (Remise) Adnewyddu’r ymosodiad ar ôl cael eich pario gan gyfnewid y pwynt ar y targed yn llinell y weithred wreiddiol
  • Ail-wifrio (Rewire) Dull sy’n cyfnewid y wifren llafn i drwsio ffwylau a chleddyfau blaenbwl
  • Amddiffyn (Defence) Heb gael ei daro gan y gwrthwynebydd, naill ai drwy bario, osgoi, neu symud allan o bellter
  • Amgylchynu (Envelopment) Rheoli llafn y gwrthwynebydd trwy wneud cylch â’ch cleddyf a sicrhau cyffyrddiad parhaus trwy gydol y symudiad
  • Amser gwasgar (Broken time) Pan geir seibiant yn ystod gweithred, fel arfer o fewn un symudiad
  • Amser gwrthol (Counter-time) Gorfodi’r gwrthwynebydd i ymateb trwy ymosod neu wrthymosod, sy’n galluogi’r cleddyfwr i fanteisio trwy ymosod neu wrthateb
  • Amser ymateb (Reaction time) Yr amser a’i gymerir gan gleddyfwr wrth ymateb i sefyllfa
  • Ar darged (On-target) Pryd y mae’r cleddyf wedi cyffwrdd â’r targed When the sword has made contact with the target
  • Arfogwr (Armourer) Person sy’n arbenigo mewn chynnal a chadw a thrwsio cyfarpar cleddyfa
  • Ar gard (En garde) Y safle a gymerir gan gleddyfwr ar ddechrau gornest
  • Atal trychu (1) Atal ergyd (2) (Stop-cut (1) Stop-hit (2)) Atal ymosodiad wrth sgorio trwy gwrth-ymosodiad
  • Atbreis (Reprise) Aildechrau’r ymosodiad trwy symudiad a’r traed

B[golygu | golygu cod]

  • Bachyn (Sky hook) Atal trychu i arddwrn neu fraich y gwrthwynebydd wrth godi'r llaw i osgoi ymosodiad parhaus
  • Balestra (Balestra) Ymosodiad amserol sy’n synnu’r gwrthwynebwr trwy neidio
  • Blaenoriaeth (Priority) Ennill yr hawl i dramwyo yn y ffwyl neu’r sabr trwy ymestyn braich y cleddyf a pharhau i fygwth targed y gwrthwynebydd
  • Bowt (1) Gornest (2) (Bout) Term i ddisgrifio gornest gleddyfa

C[golygu | golygu cod]

  • Cam hopian (Hop step) Troedwaith paratoi sy'n cael i ddefnyddio i amrywio tempo'r ymosodiad. Bydd cleddyfwr yn camu ymlaen gyda'r droed blaen, cyn cicio oddi ar y ddwy droed ac mewn i hop fach, ac yn glanio ar y troed ôl
  • Cam profi (Check step) Gweithred ymosodol a'i wneud â’r troed blaen a ffugiad llaw i efelychu dechreuad ymosodiad, naill ai i ddenu ymosodiad / gwrthymosodiad ar gyfer amser gwrthol, neu i ddenu seibiant yn yr ymosodiad
  • Camu (Step) Y ffordd y mae cleddyfwr yn symud, ymlaen neu yn ôl
  • Camu ymlaen (Advance) Symud ymlaen trwy gamu, trawsgamu neu wneud balestra
  • Camu’n ôl (Retreat) Cam neu naid yn ôl
  • Clasurol (Classical) Safon o fewn ffurf neu arddull draddodiadol a hanesyddol ar gleddyfa
  • Cleddyfa (Fencing) Mabolgamp lle mae dau berson yn defnyddio cleddyfau i geisio sgorio pwyntiau trwy daro ei (g)wrthwynebydd
  • Cleddyfa agos (Close quarters) Sefyllfa lle bydd cleddyfwyr yn agos i’w gilydd ond yn dal i fedru defnyddio cleddyfau
  • Cleddyfwr (Fencer) Person sy’n cleddyfa
  • Cleddyfwr blaenbwl (1) Cleddyfwr epée (2) (Epeeist) Person sy’n arbenigo mewn cleddyfa â’r cleddyf blaenbwl
  • Cleddyfwr sabr (Sabreur) Cleddyfwr sy’n arbenigo yn y sabr
  • Clwb (Club) Grŵp wedi ei ffurfio er mwyn i aelodau cleddyfa
  • Clymu (Bind) Ymosodiad lle bydd cleddyf yn dod i gysylltiad â llafn y gwrthwynebwr cyn symud ar letraws tuag at darged y gwrthwynebydd
  • Corps à corps (Corps à corps) Pryd mae cleddyfwyr yn rhy agos ac yn cyffwrdd â’i gilydd
  • Coulé (Coulé) Ymosodiad neu ffugiad i lawr llafn y gwrthwynebwyr sy’n digwydd trwy sythu’r fraich a chadw cyswllt â’r llafn trwy gydol yr amser
  • Coupé dessous (Coupé dessous) Ffugio toriad ar draws sy’n twyllo’r pari syml trwy ddatgyweddu i’r llinell isel
  • Crwbanu (Duck hit) Gwrthymosod sy’n cynnwys gostwng y corff wrth blygu’r penliniau i geisio dal y gwrthwynebwr wrthi
  • Crychnod (Froissement) Symud cleddyf y gwrthwynebydd o ‘fan gwan i fan cryf’ tra bo’r cleddyfau yn ymgysylltu
  • Curo (Beat) Taro cleddyf y gwrthwynebwr
  • Cydlynu (Coordination) Y gallu i ddefnyddio gwahanol rannau o’r corff yn effeithiol gyda’i gilydd
  • Cyfarch (Salute) Symud y corff a’r cleddyf cyn gornest / gwers i ddynodi parch
  • Cyfarpar cofnodi (Box) Term gyffredin i ddisgrifio system electronig sgorio i gofnodi’r trawiadau
  • Cyfeirydd sgor (Indicator) Y nifer o bwyntiau a sgoriodd cleddyfwr o’u cymharu â pha faint a ildiodd

Ch[golygu | golygu cod]

  • Chwech cylchol (Circular sixte) Enw penodol ar bari sy’n teithio mewn cylch o’r chweched safle cyn dod yn ôl i’r chweched safle
  • Chweched (Sesta) Pari chwech yn y sabr
  • Chwe uchaf (Raised sixte) Weithiau yn cael i gyfeirio fel y nawfed safle’r cleddyf

D[golygu | golygu cod]

  • Datgyweddu (Disengage) Cylchdroi’r cleddyf i osgoi a disodli arf eich gwrthwynebydd
  • Datgyweddu cylchol (Counter-disengage) Gweithred anuniongyrchol sy’n cuddio newid yn yr ymgysylltiad
  • Derobement (Derobement) Osgoi cleddyf eich gwrthwyneydd â braich syth
  • Dethol (Seed) Dull o restru cleddyfwyr trwy ddefnyddio canlyniadau blaenorol
  • Dewis ymateb (Choice reaction) Gwneud y weithred briodol i newidiadau a wneir gan y gwrthwynebydd
  • Dirymiad (Annulment) Pryd y caiff pwynt ei wrthod oherwydd cosb neu wall technegol
  • Dwbl (Doublé) Ffugio datgyweddu i ddenu pari cylchol, sydd wedyn yn cael ei dwyllo gan ddatgyweddu gwrthol
  • Dyfarnwr (Referee) Swyddog sy’n gwylio’r ornest i ddynodi pwyntiau, sicrhau bod y rheolau yn cael eu dilyn ac yn sicrhau diogelwch y cleddyfwyr

E[golygu | golygu cod]

  • Ennill mesur (Gaining measure) Dod â’r traed yn nes at ei gilydd wrth baratoi i ymosod
  • Ergyd ddibwys (Flat hit) Ergyd yn ffwyl neu gleddyf blaenbwl a’i wneud wrth ymyl y cleddyf a'i methodd i gofrestru
  • Ergyd ddwbl (Double hit) Pan fo cleddyfwyr cleddyf blaenbwl yn taro ei gilydd yr un pryd (o fewn 1/25 eiliad) sy’n golygu pwyntiau i’r ddau
  • Ergydion parhaus (Continuity hitting) Ymarfer sy’n cynnwys symudiadau parhaus i helpu i fagu hyder yn nhechneg cleddyfwr

F[golygu | golygu cod]

  • Feteraniaid (Veterans) Cleddyfwr sydd dros bedwar deg mlwydd oed
  • Fleche (Fleche) Ymosodiad neidio lle mae cleddyfwr yn trosglwyddo ei bwysau / phwysau trwy groesi ei goesau ac yn symud yn gynt i geisio taro’r gwrthwynebwr
  • Flunge (Flunge) Fersiwn sabr o’r flèche ond yn yr achos hwn, mae’r cleddyfwr yn llamu ymlaen heb groesi ei goesau / choesau cyn taro’r gwrthwynebwr

Ff[golygu | golygu cod]

  • Fflicio (Flick-hit) Yn debyg i drychu ar draws lle mae cleddyfwr yn symud ei arddwrn yn sydyn, a defnyddio’r momentwm i lanio’r ergyd
  • Ffugio (Feint) Camarwain y gwrthwynebwr trwy guddio’r llinell ymosodol
  • Ffwyliwr (1) Ffwyliwr (2) (Foilist) Person sy’n arbenigo mewn cleddyfa â’r ffwyl

G[golygu | golygu cod]

  • Galw symudiad (Call) Penderfyniad dyfarnwr
  • Gorffeniad (Finish) Pryd y mae symudiad cleddyfa wedi ei gwblhau yn llwyddiannus
  • Gleidio (Glide) Ymosodiad neu symudiad paratoi wedi ei wneud trwy lithro i lawr llafn y gwrthwynebydd gan ei chadw mewn cysylltiad cyson
  • Gwahoddiad (Invitation) Llinell neu agoriad sy'n cael ei gadael yn fwriadol heb amddiffyniad i annog y gwrthwynebydd i ymosod
  • Gweithdy cleddyfa (Armoury) Lleoliad lle mae cyfarpar cleddyfa yn cael ei gadw a’i thrwsio
  • Gwneuthurwr cleddyfau (Fencing manufacturer) Mudiad neu gwmni sy’n cynhyrchu ac yn trwsio cyfarpar cleddyfa
  • Gwrthateb (Riposte) Troi’r pari mewn i symudiad ymosodol, yn sabr rhaid amseru ar unwaith
  • Gwrthateb anuniongyrchol (Indirect riposte) Gorffeniad syml sy'n glanio mewn llinell wahanol o'i gymharu â'r ymgysylltiad / pari
  • Gwrthateb gwrthol (Counter-riposte) Ail, trydydd neu ragor o wrthatebion mewn symudiad cleddyfa ar ôl pario cleddyf y gwrthwynebydd
  • Gwrthwynebu (Opposition) Symudiad â’r cleddyf sy'n cadw cyswllt cyson â llafn y gwrthwynebydd
  • Gwrthymosodiad (Counter-attack) Cymryd mantais o’r gwrthwynebwr trwy ymosod yn erbyn yr hawl i dramwyo

H[golygu | golygu cod]

  • Hawl i dramwyo (Right of way) Set o reolau ac egwyddorion sy’n dweud sut y mae pwyntiau yn cael eu dyfarnu yn y ffwyl a’r sabr
  • Hyfforddi ar ochr y trac (Piste coaching) Rhoi adborth a gwybodaeth dactegol i cleddyfwr yn ystod yr egwyl un munud
  • Hyfforddwr (Coach) Person sy’n dysgu grwpiau ac unigolion sut i gleddyfa

I[golygu | golygu cod]

  • Incwartata (In quartata) Symudiad osgoi sy’n cael i weithredu trwy blygu’r droed flaen a symud y droed ôl, tra’n troi’r corff i’r llinell allanol i osgoi ergyd
  • Individual lesson (Gwersi unigol) Gwers rhwng cleddyfwr a hyfforddwr yn unig

Ll[golygu | golygu cod]

  • Llaw’r cleddyf (Sword hand) Y llaw sy’n dal y cleddyf (llaw dde yn achos cleddyfwyr llaw dde neu’r llaw chwith yn achos cleddyfwyr llaw chwith)
  • Llinell gaeedig (Closed line) Pan fo arf yn amddiffyn llinell rhag ymosodiad syml
  • Llinell isel (Low line) Rhan o’r targed, ar hanner is y corff o linell wedi ei thynnu ar ei hyd
  • Llinell syth (Point in line) Ennill y hawl i dramwyo trwy sythu’r fraich cyn i’r gwrthwynebwr ddechrau ymosod
  • Llinell tu allan (Outside line) Fe all gyfeirio at rhan o’r targed, ar ochr y fraich arfog o linell fertigol ddychmygol wedi ei thynnu trwy ganol y targed, neu at safle y llafn yn gymharol i safle llafn y gwrthwynebydd
  • Llinell tu mewn (Inside line) Fe all gyfeirio at rhan o’r targed, ar ochr y fraich ddigleddyf o linell fertigol wedi ei thynnu trwy ganol y corff, neu at safle y llafn yn gymharol i safle llafn y gwrthwynebydd
  • Llinell uchel (High line) Rhan o’r targed, ar ben uchaf y corff o linell wedi ei thynnu ar ei hyd
  • Llygaid agored (Open eyes) Dechrau symudiad heb unrhyw syniad blaenorol o sut y bydd yn gorffen, gan ddibynnu ar ymatebion ar allu i addasu cyn gorffen yr ymosodiad

M[golygu | golygu cod]

  • Man cryf (Forte) Y rhan gryfaf y llafn, weddi ei lleoli rhwng canol y llafn a’r gard
  • Man gwan (Foible) Y rhan wan a fwyaf hyblyg o’r llafn, wedi ei lleoli o ganol y llafn i’r pwynt
  • Mynychiad (Insistence) Mynd trwy bari’r gwrthwynebydd

N[golygu | golygu cod]

  • Newid cam (Change step) Math o droedwaith sy’n cael i ddefnyddio i reoli pellter a gorfodi'r gwrthwynebydd i ymateb. Mae’n cael ei weithredu trwy ddefnyddio symudiad blaenorol y cam gan y troed blaen i wthio a newid cyfeiriad
  • Newid curiad (Change beat) Gwneud curiad sy’n newid y llinell
  • Newid yr ymgysylltiad (Change of engagement) Ailymgysylltu ar ochr arall y gwrthwynebydd drwy basio dan, neu dros, gleddyf y gwrthwynebydd

O[golygu | golygu cod]

  • Oddi a’r targed (Off-target) Pan fydd y cleddyf yn taro rhywbeth nad oedd y targed
  • Ongli (Angulation) Creu ongl rhwng yr arf a llaw’r cleddyf i osgoi gard y gwrthwynebydd ac i allu taro yn agos neu greu gwrthwynebiad
  • Osgoi trwy bellter (Distance evasion) Pari sy’n dibynnu ar gamu i ffwrdd o’r gwrthwynebwr a’i orfodi / gorfodi i gwympo’n fyr

P[golygu | golygu cod]

  • Paratoi (Preparation) Unrhyw symudiad sy'n digwydd cyn ymosodiad
  • Paratoi cyfansawdd (Compound preparation) Pryd y bydd cleddyfwr yn paratoi dau neu fwy o ymosodiadau o fewn symudiad
  • Parhau i ymosod (Continuation of the attack) Pan fydd cleddyfwr sydd wedi colli’r hawl i dramwyo dros dro yn llwyddo i’w adennill trwy ymosod cyn i’r gwrthwynebydd allu ymateb
  • Pari (Parry) Defnyddio cleddyf i rwystro arf eich gwrthwynebwr
  • Pari aflwyddiannus (Mal-parry) Pari sydd wedi methu ag atal ymosodiad rhag glanio
  • Pari crebachu (Contraction parry) Yn debyg i bari cylchol ond yn symud yn y cyfeiriad cyferbyniol a thrwy deithio ar draws y llinell ac ar yr ochr gyferbyniol
  • Pari cylchol (Circular parry) Lle mae pwynt y llafn yn symud mewn cylch i rwystro cleddyf y gwrthwynebydd
  • Pari hanner cylchol (Semi-circular parry) Pari siâp hanner cylch, er enghraifft, mynd o safle chwech i wyth neu o wyth i chwech (yn hytrach nag o chwech i chwech)
  • Pari lletraws (Diagonal parry) Pari wedi ei gymryd ar draws y targed, naill ai o linell uchel i linell isel neu’r gwrthwyneb
  • Pari sy’n ildio (Yielding parry) Symud yr ymosod i’r naill ochr trwy gynnal cysylltiad â’r llafn a newid y pwynt cyswllt rhwng y llafnau trwy symud o safle ysgogi gwan i un sy’n defnyddio man cryf
  • Parïau olynol (Successive parries) Dau neu ragor o barïau a gymerir yn erbyn ymosodiad cyfansawddl neu ymosodiad gwrthol
  • Pario (Parrying) Gweithred o bari
  • Pario ar y llafn (Beat-parry) Pari sy’n cael ei weithredu trwy guro llafn y gwrthwynebwydd
  • Pario cyfansawdd (Compound parries) Pario yn olynol
  • Pario cyfunol (Combination parries) Pario mewn trefn penodol
  • Pellter (Distance) Y pellter rhwng y cleddyfwyr ar unrhyw adeg benodol
  • Prise de fer (Prise de fer) Cymryd rheolaeth o arf eich gwrthwynebydd (er enghraifft trwy clymu neu amgylchynu) i allu cwblhau’r ymosodiad
  • Prise-de-fer cyfansawdd (Compound prise-de-fer) Dau prises-de-fer neu ragor sy’n cael eu cymryd yn barhaus heb golli cysylltiad â llafn y gwrthwynebydd
  • Proniad (Pronation) Safle llaw wrth dal cleddyf â’r migwrn yn uchel
  • Pwynt (Point) Uned sgorio a defnyddiwyd ar gyfer ergyd dilys ar darged

R[golygu | golygu cod]

  • Rassemblement (Rassemblement) Dod â’r traed yn agos at ei gilydd, naill ai wrth symud ymlaen neu yn ôl, fel y bo gadnau’r traed yn cyffwrdd â’r corff yn gefnsyth
  • Rowndiau terfynol (Direct elimination) Adeg mewn twrnamaint lle bydd cleddyfwyr yn gadael y gystadleuaeth ar ôl colled
  • Rhythm (Cadence) Y rhythm gwneir symudiad ynddo

Rh[golygu | golygu cod]

  • Rhagwth (Lunge) Ymosodiad ym mhob arf sy’n cynnwys ymestyn y fraich, cicio allan â’r droed flaen a gwthio’r corff â’r droed ôl er mwyn lleihau'r pellter rhwng y cleddyfwyr
  • Rhagwth wrth gamu (Step-lunge) Rhagwth sy’n defnyddio momentwm o’r cam blaenorol

S[golygu | golygu cod]

  • Slaes (Through cut) Ergyd a'i gwneud drwy chwipio pwynt yr arf ar draws targed y gwrthwynebydd mewn cyfeiriad ochrol neu ar letraws
  • Sleidgamu (Slide step) Fath o droedwaith a'i defnyddiwyd i amrywio tempo a pharatoi symudiadau ymosodol ac amddiffynnol yn ganol y trac. Wrth gamu ymlaen gyda'r droed blaen cyn neidio'n fur gyda'r ddwy droed yn glanio ar yr un pryd
  • Stamp (Appel) Stampio'r droed flaen neu droed ôl ar y llawr, i gynhyrchu sain i dynnu sylw neu synnu'r gwrthwynebydd
  • Supination (Supination) Safle’r llaw wrth dal cleddyf pan fo’r gledr yn uchel
  • Symudiad osgoi (Displacement) Symud y targed yn gyfreithlon i osgoi cael eich bwrw

T[golygu | golygu cod]

  • Targed (Target) Ardal o’r corff y mae cleddyfwr yn dymuno’i daro (yn wahanol i ffwyl, cleddyf blaenbwl a sabr)
  • Taro gwib (Flying cutover) Cyfuniad o guriad a gleidio yn ôl ar draws y llafn, wedi’i ddilyn gyda thrychu ar draws
  • Torri’r llinell (Cutting-the-line) Gweler pari lletraws a phari cyfangu
  • Touché (Touché) Gair i ddynodi bod ergyd wedi cael i gofnodi mewn gêm o gleddyfa
  • Trac cleddyfa (Piste) Lle mae gornest cleddyfa yn digwydd - 14 metr o hyd ac 1.5 i 2 metr ar led
  • Trawsgamu (Crossover) Troedwaith sy’n golygu croesi’r ddwy goes (Noder, yn sabr, mae hawl gwneud hyn wrth gamu yn ôl yn unig)
  • Trychu (Cut) Ergyd â sabr sy’n defnyddio ymyl y llafn
  • Trychu ar draws (Cutover/Coupe) Symudiad anuniongyrchol a wneir trwy basio’r llafn dros bwynt y gwrthwynebydd

U[golygu | golygu cod]

  • Un-dau (One-two) Ymosodiad cyfunol sy’n twyllo pari syml y gwrthwynebydd

Y[golygu | golygu cod]

  • Ymgysylltu (Engage/Engagement) Pan fo’r ddau gleddyf yn cyffwrdd â’i gilydd
  • Ymosod ailwaniad (Remise attack) Ymosodiad sy’n dilyn ymosodiad aflwyddiannus, gwrthateb neu gwrthymosodiad ar unwaith
  • Ymosod cydamserol (Simultaneous attacks) Dau ymosodiad sy’n dechrau’r un pryd
  • Ymosodiad (Attack) Cynnig ymosodol sy'n bygwth targed y gwrthwynebydd
  • Ymosodiad anuniongyrchol (Indirect attack) Ymosodiad sy’n dechrau a gorffen ar linell wahanol
  • Ymosodiad ar waith (Attack on preparation) Ymosod wrth i’r gwrthwynebydd baratoi i ymosod
  • Ymosodiad ar y llafn (Beat attack) Ymosodiad lle bydd cleddyfwr yn curo cleddyf y gwrthwynebwr fel preliwd i’r ymosodiad
  • Ymosodiad cyfansawdd (Compound attack) Ymosodiad sy’n defnyddio mwy nag un ffugiad
  • Ymosodiad ffug (False attack) Ymosodiad sy'n bwriadu miso neu gwympo’n fyr, er mwyn gorfodi’r gwrthwynebydd i ymateb
  • Ymosodiad syml (Simple attack) Ymosodiad sy’n curo’r amddiffynnydd o fewn un symudiad
  • Ymosodiad uniongyrchol (Direct attack) Ymosodiad sy’n dechrau ac yn gorffen ar yr un llinell
  • Ysgogi (Induction) Pan fyddwch yn gorfodi’r gwrthwynebydd i wneud yr ymateb delfrydol i chi
  • Ystlys (Flank) Ochr y corff a’r ochr sy’n dal y cleddyf